Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Darllenwyr yn Cael Blas ar Lyfrau Cymraeg

Published

on

MAE CYNGOR Llyfrau Cymru wedi derbyn adroddiad calonogol iawn gan gwmni ymchwil Beaufort Research yn dilyn arolwg o arferion darllen ymysg Cymry Cymraeg.

Allan o’r 1,005 o siaradwyr Cymraeg dros 16 oed a holwyd, roedd 24% yn darllen o leiaf un llyfr y mis o’i gymharu â 19% yn 2012 a 13% yn 2006.

Yr oedd hefyd yn galonogol bod y nifer sy’n darllen un llyfr y flwyddyn wedi aros yn sefydlog oddi ar yr arolwg diwethaf yn 2012 (44% yn 2016 o’i gymharu â 43% yn 2012). Bu cynnydd sylweddol hefyd yn y nifer oedd yn darllen llyfrau’n rheolaidd, gyda 36% yn darllen mwy na 10 llyfr y flwyddyn yn 2016. Roedd y ffigur hwn yn 28% yn arolwg 2012. Cadarnhawyd hyn ymhellach gyda chynnydd yn y nifer oedd yn darllen mwy na 20 llyfr y flwyddyn (20% yn 2016 o’i gymharu â 14% yn 2012).

Comisiynwyd yr arolwg hwn i arferion darllen a phrynu llyfrau Cymraeg gan y Cyngor Llyfrau, ac fe’i cynhaliwyd yn ystod gwanwyn a hydref 2016. Gofynnwyd i gwmni Beaufort Research hefyd gymharu’r canlyniadau â’r arolygon tebyg a gynhaliwyd yn 2003, 2006 a 2012.

“Mae canlyniadau’r arolwg yn galonogol unwaith eto,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. “Y mae’r diwydiant cyhoeddi wedi wynebu newidiadau yn ddiweddar, ond mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu awch y darllenwyr am lyfrau Cymraeg ac egni’r sector cyfan i ddarparu ystod o ddeunydd apelgar ar eu cyfer.”

Ychwanegodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith: “Rwyf yn falch o glywed am ganlyniadau’r arolwg hwn sy’n cadarnhau bod cyfran dda o siaradwyr Cymraeg yn ddarllenwyr rheolaidd. Mae’n tanlinellu unwaith eto rôl bwysig y diwydiant cyhoeddi yn cefnogi Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru a sicrhau parhad tymor hir yr iaith.”

Dengys yr arolwg mai nofelau yw’r categori mwyaf poblogaidd ymysg y darllenwyr, gan adlewyrchu’r buddsoddiad a wnaed yn y maes dros y blynyddoedd diwethaf a llwyddiant y cyhoeddwyr i sicrhau cnwd o awduron newydd yn ogystal â chyfrolau gan enwau cyfarwydd. Fe welir hefyd fod llyfrau ar gyfer plant yn parhau’n hynod boblogaidd.

Yn ogystal, bu’r arolwg yn edrych ar batrymau prynu llyfrau Cymraeg gan holi hefyd sut mae’r cyhoedd yn dod o hyd i wybodaeth am y deunydd diweddaraf. Pwysleisir eto bwysigrwydd y siopau llyfrau fel ffynhonnell gwybodaeth a’r prif leoliad ar gyfer prynu llyfrau. Fel y byddid yn disgwyl, gwneir defnydd helaeth o’r we i ddod o hyd i wybodaeth am lyfrau, a gwelwyd cynnydd yn y nifer sy’n defnyddio’r we i brynu llyfrau (o 21% yn 2013 i 27% yn 2016).

“Mae’r gyfres hon o arolygon yn bwysig iawn i’r Cyngor Llyfrau a’r diwydiant cyhoeddi,” meddai Arwel Jones o Adran Grantiau Cyhoeddi’r Cyngor, “ac mae’n braf cael tystiolaeth bod yr amrywiaeth o lyfrau Cymraeg a gyhoeddir yn plesio’r darllenwyr. Mae hyn yn sicr yn brawf o lwyddiant y diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

“Dyw’r boen byth yn diflannu”

Published

on

Y Ditectif: Gyda Mali Harries

FE FYDD cyfres S4C Y Ditectif yn cael mynediad ecsgliwsif i dystiolaeth yr heddlu a chyfweliadau pwerus gyda’r ditectifs a’r teuluoedd wrth i’r actor a’r cyflwynydd Mali Harries ddychwelyd i edrych ar saith achos o lofruddiaeth o nos Fawrth, 24 Ebrill ymlaen.

Ymysg yr achosion mae Mali yn eu holrhain mae llofruddiaeth Connor Marshall, 18 oed, fu farw ar ôl ymosodiad treisgar arno ar noson allan ym Mhorthcawl; ymchwiliad Operation York, pan gafodd Mark Mason ei drywanu 22 gwaith mewn hanner munud yn Y Rhyl, a llofruddiaeth Betty Guy, menyw 84 oed o Sir Benfro y credwyd am flynyddoedd iddi farw o achosion naturiol cyn i dystiolaeth newydd ddod i’r amlwg.

“Yn y drydedd gyfres, rwy’n cwrdd â mwy o deuluoedd y dioddefwyr a gweld shwd maen nhw’n dygymod ac yn gorfod byw gyda’r hyn sy’ wedi digwydd i’w plant nhw,” meddai Mali Harries, sy’n adnabyddus am chwarae rhan DI Mared Rhys yn y gyfres Y Gwyll/Hinterland ymysg rhannau blaenllaw eraill mewn cyfresi drama a ffilmiau.

“Beth dwi wedi ei ddysgu yw bod y boen byth yn diflannu a’r boen ddim yn mynd gyda’r achos llys, mae’r teuluoedd ‘ma yn gorfod ffeindio ffordd eu hunain i ddelio ’da’r peth a gorfod cario mla’n gyda’r golled enfawr.”

“Yn y drydedd bennod dwi’n cyfarfod mam Connor Marshall, y bachgen 18 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth mewn maes carafanau ym Mhorthcawl yn 2015. Mae’n haunting meddwl beth ddigwyddodd i fachgen mor ifanc oedd yn y lle anghywir ar yr amser anghywir. Fel Mam ro’dd clywed Nadine Marshall yn sôn am y dilema o eisiau rhoi rhyddid i’w phlant ond fel ma’ peryglon yn gallu dod gyda’r rhyddid yna yn drist iawn.”

Yn y rhaglen gyntaf bydd Mali yn teithio i’r Fflint i glywed pam y gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru ail agor achos marwolaeth Janet Commins. Ddeugain mlynedd ar ôl i’r ferch 15 oed gael ei lladd, daeth tystiolaeth DNA i godi cwestiynau syfrdanol am yr achos.

“Roedd e’n anhygoel dysgu sut wnaeth y troseddwr fyw gyda’i gyfrinach am ddeugain mlynedd ar ôl lladd merch ddiniwed, a gadael i ddyn arall fynd i’r carchar a chael bai ar gam. O’n i’n methu credu bod e’ ‘di gallu cario mlaen gyda’i fywyd e ar ôl beth wnaeth e a byw yng nghanol yr un gymuned a theulu Janet Commins ar hyd yr amser.”

Mae gweld sut mae pob aelod o unedau datrys troseddau’r heddlu yn gweithio gyda’i gilydd yn agoriad llygad ac yn gysur i Mali.

“Mae cyfarfod y ditectifs yn rhoi ffydd i fi; er bod pethau erchyll yn gallu digwydd, mae yna bobl dda yn cario mlaen i drio darganfod y gwir,” meddai Mali.

“Dwi wedi dysgu bod dim un lle erbyn hyn i unrhyw un gadw cyfrinachau gan fod y ditectifs yn gallu gwrando a chlywed gyda thechnegau cudd i ddatgelu’r cyfan.”

Continue Reading

Cymraeg

Helpwch Parc Cenedlaethol gyda’r cynllun Noddi Iet newydd

Published

on

Warchod a gwella tirwedd: llwybrau troed Arfordir Sir Benfro

OS YDYCH chi’n mwynhau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a hoffech gefnogi’r gwaith caled a gaiff ei wneud i gynnal y dirwedd hon, sydd heb ei hail, gallwch helpu nawr drwy gyfrannu at y cynllun Noddi Iet newydd.

Bydd yr incwm a gaiff ei greu gan y cynllun, lle bydd placiau personol yn cael eu gosod ar ietiau ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Penfro, yn cefnogi gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gynnal a chadw’r Llwybr 186 milltir o hyd a’r Parc Cenedlaethol ehangach.

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Allanol Awdurdod y Parc, Nichola Couceiro: “Bydd plac personol ar bob iet a gaiff ei noddi, a bydd gennych chi’r opsiwn o noddi iet er cof am rywun oedd yn bwysig i chi, fel rhodd i rywun arbennig, drwy eich cwmni neu hyd yn oed yn eich enw chi’ch hun.

“Mae dros 100 o ietiau ar gael i’w noddi ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Penfro, sy’n golygu bod digonedd o leoliadau posib i ddewis ohonynt”.

Mae pob iet yn costio £600 i’w noddi, a bydd y nawdd yn para am gyfnod o ddeng mlynedd. Gallwch dalu drwy siec neu gerdyn debyd/credyd, drwy ffonio Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 01646 624800.

Mae’r ffurflenni ar gael o wefan Awdurdod y Parc yn www.arfordirpenfro.cymru/noddiiet.

Dylech anfon y ffurflenni wedi’u llenwi i nicholac@pembrokeshirecoast.org.uk neu yn y post at: Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Noddi Iet, ewch i’r wefan uchod neu ffoniwch 01646 624808.

Continue Reading

Cymraeg

Byddai gwahardd allforio anifeiliaid byw yn annoeth, meddai UAC

Published

on

Glyn Roberts, UAC: Y byddai'n annoeth i gyflwyno gwaharddiad

BYDDAI gwahardd allforio anifeiliaid byw yn ‘hynod o annoeth’ o ystyried yr ansicrwydd ynghylch cytundeb masnach a thariffau amaethyddol ar ôl-Brexit, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.

Ar Ebrill 9, galwodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am dystiolaeth ar waharddiad ledled y DU ar allforio anifeiliaid byw i’w lladd dramor – rhywbeth nad yw’n bosibl tra bod y DU yn parhau i fod yn rhan o’r UE, oherwydd rheolau masnach rydd yr UE.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Yn naturiol byddwn yn ymgynghori ag aelodau ynghylch y mater hwn, ond ein safbwynt presennol yw y byddai’n annoeth i gyflwyno gwaharddiad ar allforion byw ar yr un pryd â chyflwyno tariffau enfawr posib ar allforion cig i’r UE.”

Dywedodd Mr Roberts y gallai gwaharddiad o’r fath fod yn ergyd i ffermwyr defaid, gan y gallai tariffau o tua 50% o werth cynnyrch fod ar gig ar ôl i ni adael yr UE, ac y byddai hyn yn dirywio masnach allforion cig dafad, sy’n cynrychioli o gwmpas traean o werthiant cig oen Cymru.

“Rydym yn gwerthfawrogi pryderon pobl ynglŷn ag allforion byw, ond rhaid inni gofio bod safonau lles cyfreithiol yr UE ymhlith yr uchaf yn y byd ac mae’r rhain yn berthnasol yma ac ar dir mawr Ewrop.”

Mae sylwadau Mr Roberts yn adleisio rhai Llywodraeth yr Alban.

Wrth ymateb i gynnig tebyg yn gynharach eleni, dywedodd Mr Ewing: “Gadewch imi fod yn hollol glir, dyma un fframwaith ledled y DU na fydd llywodraeth yr Alban yn cymryd rhan ynddo. Ni fyddaf yn cefnogi unrhyw beth sy’n creu heriau neu anawsterau pellach i’n sector amaethyddol neu’n rhoi amaethyddiaeth yr Alban o dan anfantais.”

“Felly ni fydd llywodraeth yr Alban yn cefnogi gwahardd allforion anifeiliaid byw, ond byddwn yn parhau i fod yn ymrwymedig i les pob anifail yn ystod cludiant sy’n cydymffurfio â’r safonau trylwyr cyfredol sy’n berthnasol – safonau a rheoliadau a ddarperir gan yr UE, sydd eisoes gyda’r gorau yn y byd ac yn ein hamddiffyn ni trwy’r mesurau iechyd anifeiliaid, planhigion a chemegol a galluogi ein cynnyrch i gael ei fasnachu ledled y byd.”

Dywedodd Mr Roberts fod y pryderon ynghylch y cynigion yn yr Alban yr un fath â’r rhai yng Nghymru, ac y byddai unrhyw waharddiad o’r fath yn niweidio ein buddiannau ni yn anfwriadol.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK