Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Greynog yn ail-greu pasiant cerddorol

Published

on

Neuadd Greynog: Ger Y Drenewydd

MAE GŴYL cerddoriaeth glasurol fwyaf mawreddog Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen ar gyfer 2017 a hon fydd y fwyaf uchelgeisiol eto. Eleni, Pasiantri fydd thema gyffredinol Gŵyl Gregynog, a bydd yn cyflwyno perfformiadau cerddorol, cynyrchiadau dawns, arddangosfeydd hanesyddol a sgyrsiau gafaelgar mewn nifer o leoliadau gwahanol ledled Cymru rhwng 16 Mehefin a 2 Gorffennaf.

Gregynog yw gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru sy’n dal i gael ei chynnal, ond ei rhagflaenydd fwyaf arwyddocaol oedd Gŵyl Gerddorol Castell Harlech. Gan fanteisio ar 20 mlynedd o waith ymchwil, ysbrydolir y rhaglen ar gyfer tymor Pasiantri Gŵyl Gregynog gan yr hafau hyfryd hynny, ganrif yn ôl, pan ymgasglodd cymuned greadigol ryfeddol yn Harlech, yn cynnwys artistiaid enwog, ffotograffwyr, awduron a dawnswyr yn ogystal â cherddorion, ac fe fyddai miloedd o bobl yn heidio i fod yn rhan o berfformiadau cofiadwy o fewn muriau’r Castell.

Ymhlith y llu o uchafbwyntiau yn nhymor 2017 fydd y pianydd Llŷr Williams a’r sacsoffonydd Amy Dickson yng Nghastell Y Waun, darn dawns a gomisiynwyd yn arbennig gan Light, Ladd ac Emberton a berfformir yn y cyfnos ar Draeth Harlech, a sgyrsiau goleuedig gan ddeallusion fel Peter Lord a Hazel Walford Davies.

I Rhian Davies, curadur yr Ŵyl, mae’r rhaglen yn benllanw dau ddegawd o ymchwil: “Rwyf wastad wedi cael fy synnu gan greadigrwydd a gweledigaeth y gymuned artistig ryfeddol a ymgasglodd yn Harlech ganrif yn ôl. Mae hanesion hudol i’w hail-adrodd, megis datganiad Cyril Scott ar gyfer y Prif Weinidog David Lloyd George yn ei gartref yng Nghricieth, a chyngherddau byrfyfyr yn y Neuadd Fawr ym Mhlas Wernfawr, safle Theatr Ardudwy heddiw, lle y cafwyd unwaith ddeuawd piano gan Harriet Cohen a George Bernard Shaw. Rwyf hefyd yn dathlu gwaith arloesol Arnold Dolmetsch, ac yn fwy arbennig felly ei waith ar gerddoriaeth ac offerynnau canoloesol Cymru.

“A hwythau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru, mae pob cyngerdd yn adfer repertoire gan aelod neu aelodau o’r grŵp ac ysgrifennwyd llawer o’r cyfansoddiadau hyn yn Harlech neu fe’u hysbrydolwyd gan dirwedd a chwedlau Cymru, sy’n amserol iawn o gofio ein bod yn cychwyn ar ein taith trwy Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.”

Cynhelir yr Ŵyl yn Aberystwyth, Y Waun a Gregynog yn ogystal â phenwythnos hir mewn canolfannau ar hyd a lled Harlech ei hun, ac mae’r prif artistiaid yn cynnwys y Ricercar Consort, dan gyfarwyddyd Philippe Pierlot, yr athrylith ar y recorder Michala Petri gyda’r harpsicordydd Mahan Esfahani, y lwtenydd Thomas Dunford, y clarinetydd Robert Plane gyda’r Gould Piano Trio, y feiolinydd Sara Trickey a’r pianydd Clare Hammond, y gantores werin Gaeleg Yr Alban Joy Dunlop, a’r chwaraewr pianola rhyfeddol Rex Lawson.

Ychwanegiad arloesol eleni fydd cynhyrchiad arbennig a gomisiynwyd gan Ŵyl Gregynog gan y gyweithfa ddawns, Light, Ladd ac Emberton, ac a berfformir fel ymateb i’r llanw ar draeth Harlech. Mae’r berfformwraig Eddie Ladd ei hun yn edrych ymlaen yn awchus at y profiad,

“Ysbrydolir y cynhyrchiad dawns hwn, fel gweddill yr ŵyl yn 2017, gan greadigwrydd a dychymyg toreithiol yr artistiaid a fu’n ymweld â Harlech ganrif yn ôl, a chan Margaret Morris yn enwedig, oedd yn arloeswraig ym myd dawns a gwaith symud. Gwna chwedleuon a hanes Harlech yn ogystal â thirwedd syfrdanol yr arfordir ddarn a fydd yn swyno’r synhwyrau. “Mae’r Ŵyl hefyd yn cynnwys rhaglen ategol lawn o sgyrsiau, ffilmiau, teithiau, arddangosfeydd a digwyddiadau allestyn cymunedol er mwyn cyflwyno cyd-destun ac annog trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd i chwarae rhan lawn yn y gweithgarwch.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

A wnaiff cysgod du’r diciau gilio oddi?​

Published

on

Mae Plaid Cymru’n croesawu’r mesurau: Simon Thomas

​​MAE DICIAU buchol wedi taflu cysgod du dros ddiwydiant gwartheg Cymru, ond mae gobaith y bydd rhaglen dileu diciau, sy’n cychwyn yfory (1af o Hydref), yn lleihau y nifer o achosion diciau buchol.

Parthau fydd y drefn newydd, gyda dwy barth Ganolradd, dwy barth Uchel a dwy barth Isel yn cael eu sefydlu dros Gymru â mesurau wedi eu haddasu ar gyfer pob parth.

Dywed Simon Thomas, y Gweinidog Cysgodol dros Materion Gwledig: “Mae Plaid Cymru’n croesawu’r mesurau i reoli a dileu diciau a sicrhau bod profion a chyfyngiadau symud yn cydfynd â statws y clwyf yn y barth honno.

“Mae diciau buchol wedi taflu cysgod du dros y diwylliant ffermio yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn gwario bron i £150m ar iawndal diciau dros y ddegawd ddiwethaf.

“Croesawaf agwedd sy’n cymryd materion lles anifeiliaid, y gwartheg yn ogystal â’r moch daear, wrth gysidro dileu o ddifrif. Dyma glwyf sy’n poeni yr anifeiliaid yr ydym ni yn edrych ar eu hôl yn ogystal ag anifeiliaid gwyllt, ac mae angen i ni ddileu’r clwyf o’r ddwy sector.

“Gobeithiaf y gwnaiff cymryd ymagwedd ataliol leihau nifer yr achosion o ddiciau gan godi’r cysgod du oddi ar y diwylliant gwartheg.

“Rydym wedi bod yn mynnu gweld gweithredu gan y Llywodraeth Lafur ers 2015 pryd ataliwyd y rhaglen brechu moch daear oherwydd prinder byd-eang ar y brechlyn a’r angen i’w ddefnyddio ar gyfer iechyd dynol.

“Mae angen gweithredu yn arbennig gan fod cysgod Brexit a pha delerau masnachol sy’n cael eu trafod.

“Codwyd pryderon â mi dros yr haf yn ystod nifer o’r sioeau amaethyddol y mynychais fel y Sioe Frenhinol a Sioe Sir Benfro am yr effaith ar y fasnach rhwng yr ardaloedd. Mae angen i’r Llywodraeth Lafur fynd i’r afael â’r mater hwn yn ogystal â’r mater o brofion ychwanegol yn yr ardaloedd Uchel a Chanolradd.

“Mae wedi cael ei sefydlu bod y clwyf yn cael ei basio rhwng yr anifeiliaid gwyllt a’r gwartheg a rheoli’r clwyf o fewn y boblogaeth o anifeiliaid gwyllt sydd yn rhaid mynd law yn llaw â phrofion ar anifeiliaid a cyfyngiadau symudiad.

Rhaid i’r Llywodraeth Lafur ein sicrhau bod y mesurau yn cael eu targedu a’u bod yn effeithiol a dyngarol. Dydw i ddim yn credu bod tystiolaeth i gefnogi dilyn Lloegr a difa ar raddfa fawr.”

Continue Reading

Cymraeg

Ymwelwyr yn heidio i’r Senedd i weld Weeping Window

Published

on

DAETH nifer uwch nag erioed o ymwelwyr i’r Senedd dros yr haf eleni i weld cerflun pabis eiconig Weeping Window.

Daeth mwy na 49,000 o bobl i weld gwaith yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, sy’n rhan o daith ledled y DU a drefnwyd gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r ffigur fwy na deirgwaith yn uwch na nifer y bobl a ymwelodd â’r Senedd yn ystod yr un cyfnod dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Roedd y cerflun i’w weld ar risiau’r Senedd rhwng mis Awst a mis Medi a bydd yn symud nawr i Amgueddfa Ulster yn Belfast ar gyfer cam nesaf y daith ledled y DU.

Roedd yr arddangosfa yn rhan o ‘Cymru’n Cofio’, sef rhaglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd arddangosfa Weeping Window yn cyd-fynd â chanmlwyddiant Brwydr Passchendaele, lle y bu farw llawer o Gymry, gan gynnwys y bardd enwog Hedd Wyn.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad, “Mae Weeping Window wedi bod yn boblogaidd iawn, gan ddenu nifer fawr o ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

“Mae’r Senedd yn lleoliad arbennig ac mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn mwynhau’r cerflun ac yn cymryd amser i feddwl ac ystyried ei arwyddocâd.”

Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW: “Mae’r pabis wedi swyno miliynau o bobl ledled y DU, ac roeddem yn falch iawn o gael cyfle i weithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Weeping Window yn y Senedd yng Nghaerdydd.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper am y ddau ddarn hynod bwerus hyn o gelf sydd o arwyddocâd cenedlaethol ac sy’n parhau i ysbrydoli pawb sy’n eu gweld.”

Mae Weeping Window yn un o ddau gerflun a gymerwyd o’r celfwaith Blood Swept Lands and Seas of Red – gwaith yr artist Paul Cummins yw’r pabis a’r cysyniad gwreiddiol a dyluniwyd y gosodiad gan Tom Piper​.​

Cafodd y gosodiad ei arddangos yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain yn 2014, lle’r oedd 888,246 o babis i’w gweld, sef un ar gyfer pob milwr Prydeinig neu drefedigol a laddwyd ar y ffrynt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Lluniwyd y gosodiad gan Paul Cummins Ceramics Limited ar y cyd â’r Palasau Brenhinol Hanesyddol. Weeping Window yw’r rhaeadr o babis a oedd i’w gweld yn llifo allan o ffenestr uchel i lawr at y glaswellt oddi tani.

Ochr yn ochr â Weeping Window cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru arddangosfa o’r enw Menywod, Rhyfel a Heddwch hefyd. Daeth Lee Karen Stow, y ffotonewyddiadurwr enwog, â’i harddangosfa fyd-enwog i Gymru, yn cynnwys portreadau ychwanegol a gomisiynwyd yn arbennig i ddangos effaith y rhyfel ar fenywod Cymru.

Mae teithiau Wave a Weeping Window gan 14-18 NOW yn rhoi cyfle i bobl ledled y DU deimlo effaith y pabis seramig mewn lleoliadau amrywiol sydd â chysylltiad â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ers i’r teithiau ddechrau yn 2015, mae dros 2.7 miliwn o bobl wedi gweld y ddau gerflun. Bydd Wave a Weeping Window yn parhau i gael eu harddangos mewn lleoliadau penodol o amgylch y DU, gan gyrraedd IWM North ac IWM Llundain yn ystod yr hydref yn 2018.

Yn dilyn yr arddangosfa yng Nghaerdydd, bydd Weeping Window yn Amgueddfa Ulster yn Belfast rhwng 14 Hydref a 3 Rhagfyr 2017. Bydd Wave i’w weld yng Nghofgolofn Lyngesol Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn Plymouth rhwng 23 Awst a 19 Tachwedd 2017.

Mae Wave a Weeping Window wedi cael eu cadw i’r genedl gan Ymddiriedolaeth Backstage a Sefydliad Clore Duffield. Cafwyd cymorth ariannol ar gyfer yr arddangosfeydd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae’r gwaith o godi arian ar gyfer y teithiau yn parhau.

DAF Trucks yw’r noddwr trafnidiaeth ar gyfer yr arddangosfeydd yn y DU, ac mae 14-18 NOW yn falch iawn o fod yn bartner i DAF wrth droi’r prosiect hanesyddol hwn yn realiti. Cefnogir y rhaglen ddysgu ac ymgysylltu sy’n cyd-fynd â thaith y pabis gan Sefydliad Foyle.

Continue Reading

Cymraeg

‘Mae gan Gymru’r momentwm’

Published

on

MAE CYFLWYNYDD pêl-droed S4C, Dylan Ebenezer, yn barod am benwythnos hir, bythgofiadwy wrth i ymdrechion Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia barhau.

Ac fe fydd miloedd o gefnogwyr Cymru yn ymuno ag e ar y siwrnai gyffrous ar S4C wrth i’r sianel ddarlledu’r ddwy gêm ragbrofol olaf yng Ngrŵp D yn fyw.

Bydd y penwythnos hir o bêl-droed yn dechrau yn Georgia ddydd Gwener, 6 Hydref ac yn cyrraedd uchafbwynt nos Lun, 9 Hydref pan fydd Cymru’n herio Iwerddon.

“Bydd y ddwy gêm yn ofnadwy o anodd, ond os gwnawn ni ennill mas yn Georgia, rwy’n wir yn meddwl yr enillon ni’r ail gêm gartre’ hefyd,” meddai Dylan, cyflwynydd rhaglen bêl-droed wythnosol S4C, Sgorio.

“Rwy’n gwybod bod y gair ‘momentwm’ yn dipyn o cliché, ond yn yr achos ‘ma mae’n wir. Yn y gêm gyntaf yn erbyn Georgia gartre’ pan gafodd Gymru gêm gyfartal ar ôl perfformiad siomedig, roedden ni’n diodde’ o dipyn bach o Euro hangover. Ond y tro hwn bydd pethau’n hollol wahanol, byddan nhw’n canolbwyntio’n llwyr ar gael y fuddugoliaeth.”

Yn ymuno â Dylan ar gyfer y gemau, bydd y tîm sylwebu Nic Parry a Malcolm Allen, gyda’r cyn chwaraewyr rhyngwladol Owain Tudur Jones a Dai Davies yn dadansoddi yn y stiwdio.

Gyda Serbia yn edrych yn debygol o ennill y grŵp, y gobaith mwyaf i Gymru yw gorffen yn ail; hyd yn oed wedyn does dim sicrwydd y byddan nhw’n cyrraedd y gemau ail gyfle.

“Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn bositif a mynd amdani,” meddai Dylan. “Rwy’n gwybod yn erbyn Awstria bod y tîm wedi cael llond pen gan Chris Coleman yn yr ystafell newid hanner amser achos eu bod nhw’n chwarae mewn ofn o gael cardiau melyn. Dywedodd wrthyn nhw i anghofio am y cardiau melyn a chwaraeodd y tîm lot gwell yn yr ail hanner ac ennill.

“Mae’n rhaid iddyn nhw chwarae gyda’r un penderfyniad yn y gemau yma. Fe ddylai Ramsey a Bale fod ‘nôl ar eu gorau, ac wrth gwrs bydd Ben Woodburn ar y fainc … Mae’n fater o ‘un cyfle mewn oes’ i gyrraedd Rwsia ac mae’n rhaid iddyn nhw fynd amdani.”

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK