Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Noson y Gorweliaid a Chawl Caffi Beca

Avatar

Published

on

PWY DDYWEDODD synnon ni’n gallu creu ein hadloniant ein hunain gwedwch? Towlwch y zapper. Rhowch y gore i wasgu botyme’r cyfrifiadur. Diffoddwch y bocs. Cwatwch yr i-ffôn. A rhowch eich dychymyg ar waith gan ddefnyddio dim mwy na chof a llais. Pe baech chi yng Nghaffi Beca, yn Efail-wen, yn ddiweddar, buasech wedi cael dwy awr ddifyr o frethyn cartre’ ar ben basned o gawl.

Mae Robert James yn adnabyddus am ansawdd ei gawl wrth gwrs. Cawl cartre’ yn llysie a chig sy’n bryd ynddo’i hun yn hytrach na’r cawl tene dwrllyd ‘ma gewch chi yn ambell i fan a chithe’n whilo’n ofer am ddarn bach o gig yn ei ganol. Ac fe gewch chi’r trimins i fynd ‘da ge. Hynny yw, cwlffyn o gaws a thafell o fara. Gallwch ddathlu Gŵyl Ddewi bob dydd o’r flwyddyn yng Nghaffi Beca. Cawl ffarm heb ei ail.

Felly oedd hi ar fanc Efail-wen ar ffin y ddwy sir ar nos Sadwrn ar ddiwedd mis bach. Roedd y llwythe wedi dod ynghyd i fwynhau adloniant wedi’i ddarparu gan lwyth y Lewysiaid neu griw’r Gorwelion o gyffinie Login. Sdim rhyfedd fod y lle’n llawn. Roedd un o’r ieuengaf o’u plith, Gwyndaf, yn codi arian ar gyfer ymweld â Phatagonia yn yr haf. Fe’n tywyswyd nôl i ddyddie’r Nosweithie Llawen yn garlibwns.

Beth gafwyd te meddech chi? Wel, wnâi ddim datgelu’r cwbl. Ond i roi rhyw awgrym i chi, roedd tair cyfeilyddes gan y criw i eilio wrth y piano. Cafwyd caneuon cyfarwydd gan unigolion, deuawdau, partïon a hyd yn oed côr cyfan pan oedd y teulu’n grwn ar y llwyfan. Wrth gwrs bod yna elfen fyrfyfyr yn perthyn i’r cyfan. Ond roedd hynny’n ychwanegu at yr ysbryd cartrefol, gwlei.

Cafwyd sgetsus a’r rheini’n digwydd yng nghanol y gynulleidfa. Roedd ymdrech y pwr dab i gofio archeb diodydd un byrdded erbyn iddo gyrraedd y bar ac ail-gynnig sawl gwaith i’w gael yn gywir yn dreth ar amynedd ei gefnder o farman ond yn codi gwên ar wyneb y gynulleidfa. ‘Ma fe wedi cymysgu’n garbel to’! medde rhywun wrth fy ymyl.

Roedd y ddau strab hŷn wedyn, Eurfyl fel doctor, a’i frawd, Tudur, fel claf yn y syrjeri nad oedd ar frys, a’r holl gleifion eraill a’u hanhwylderau difrifol, yn creu rhialtwch. Ni chredaf fod yna’r fath syrjeri yn Arberth na Hendy-gwyn. Llwyddodd Eurfyl i esgor babi ei chwaer yn y fan a’r lle mewn dwy funud. Fiw i mi ddatgelu pam nad oedd Tudur ar hast i weld y meddyg er taw fe oedd y claf cyntaf i gyrraedd. Bodlon oedd i adael pawb arall i fynd at y stethosgop o’i flaen. Pert ‘achan.

Ond rhaid cyfeirio at y gân sgets canu gwlad a’r gân grafog am gyn-brif weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry Jones, a phrif weithredwr presennol Sir Gar, Mark James. Go dda wir. Ma’r canu gwlad ‘ma’n gallu arwain dyn i’r dwnshwn eithaf o ddiflastod ac anobaith. A bydd hanes y Porsche fyw am getyn, gwlei. Cystel bob tamed â baled Lefi Gibwn i’r ‘Beca’.

Gwn am ambell ardal gyffelyb ble byddai’n rhaid cael cyfran o eiteme yn Saesneg rhag digio’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Fan hyn rhowd cyfle i’r prin eu Cymraeg werthfawrogi’r modd y mae’r Gymraeg yn gallu cynnal noson o adloniant ar ei phen ei hun. Gwnaed y cwbl yn gwbl naturiol. Roedd pawb yn corco wherthin.

Cishwch gyda Gorweliaid Gorwelion i ddod i ddifyrru yn eich ardal chi. A cishwch gyda mam-gu’r un-ar-ddeg o wyrion i roi unawd hefyd. Ond bydd basned o gawl a sêrs ar ei wmed yn gaffaeliad ‘fyd.

Roedd hi’n noson a wnâi fy atgoffa o ddifyrwch Bois y Frenni. A wyddech chi wedyn te fod y parti’n ddeg a thrigain oed eleni? Odyn wir. Ma’ na ddathlu i fod mae’n debyg. Noson yn Neuadd Boncath o gofio mai dyna lle berfformion nhw gyntaf erioed o dan arweiniad y chwedlonol Wil Glynsaithmaen. Ma’ nhw’n dal i berfformio’n gyson, wrth gwrs, ac yn cyfyngu eu hunain i’r hen ganeuon.

Ma’ rhywbeth yn braf yn hynny o beth. Ma’n nhw’n dal i ganu cloch a tharo deuddeg yng nghysgod y Frenni Fawr. Ma’ Gwyndaf Lewis yn un o’r aelodau; eled ag afiaith y Preselau yn ei ges i Batagonia.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Mwynhewch wledd o hwyl y Pasg ym Mharc Cenedlaethol

Avatar

Published

on

OS YDYCH chi’n chwilio am rywle newydd i’w ddarganfod neu eisiau hwyl i’r teulu cyfan yn ystod gwyliau’r Pasg, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn addo cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau yn ystod Blwyddyn Darganfod.

Bydd holl fwrlwm y Pasg yn aros amdanoch yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, a bydd amrywiaeth o brofiadau eraill i’w mwynhau yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol.

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn rhoi cyfle i chi Brofi’r Oes Haearn ar 25 a 27 Ebrill, i brofi sut oedd bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Codir tâl bychan am weithgareddau yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Bydd Diwrnodau Hwyl y Pasg ar 19, 20 a 21 Ebrill yn rhoi cyfle i chi ddarganfod sgil newydd neu ddilyn Helfa’r Pasg. Codir tâl bychan am weithgareddau yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Am fanylion llawn gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau mynediad ac amseroedd agor, ewch i www.castellhenllys.com neu ffoniwch 01239 891319.

Yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, gallwch ymuno â Helfa’r Gwningen Basg o 13-28 Ebrill, sy’n golygu neidio o gwmpas y Castell yn chwilio am gliwiau. Dewch o hyd i’r holl gliwiau i hawlio gwobr flasus. £1 y plentyn yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

I’r rheini sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd, bydd Rhoi Tro ar: Y Cwrwgl ar 21, 22 a 23 Ebrill yn gyfle i chi roi cynnig ar y cwch traddodiadol un person ar Bwll Melin Caeriw, yn dilyn hyfforddiant arbenigol. Pris mynediad arferol yn ogystal â £5 am sesiwn 15 munud neu £10 am sesiwn 30 munud. Mae’n syniad da i gadw lle ymlaen llaw.

Am fanylion llawn gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau mynediad ac amserau agor ewch i www.carewcastle.com neu ffoniwch 01646 651782.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, gallwch herio Helfa Drysor y Pasg i 21 Ebrill er mwyn dod o hyd i’r cliwiau sydd wedi’u cuddio o amgylch y Ganolfan a’r tir gerllaw gyda’r nod o ddatgelu’r ateb cudd i ennill gwobr. £2 y ddalen.

Bydd y gweithdy Darganfod Celf ar 23 Ebrill yn annog plant i fod yn greadigol a chynhyrchu campwaith i fynd adref gyda nhw, ar ôl archwilio’r oriel i ddod o hyd i ysbrydoliaeth. £3 y plentyn.

Am fanylion llawn, gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau ac amseroedd agor, ewch i www.orielyparc.co.uk neu ffoniwch 01437 720392.

I’r rheini sydd â diddordeb mewn daeareg a hanes, bydd taith dywys Darllen y Dirwedd: Taith drwy Amser o gwmpas Penmaen Dewi ar 24 Ebrill yn datgelu cyfoeth o nodweddion hanesyddol a naturiol. Bydd y llwybr pum milltir yn pasio drwy dystiolaeth o fywyd y cyfnod Neolithig, yr Oes Haearn a’r Oesoedd Canol a bydd yn costio £4 y person.
I gadw lle ar y digwyddiadau hyn, ffoniwch 01437 720392.

I weld manylion yr holl weithgareddau a’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau neu fel arall casglwch gopi o Coast to Coast.

Continue Reading

Cymraeg

Portread cignoeth o’r bobl sy’n rheoli pla

Avatar

Published

on

MAE rheolwyr pla yn bobl ymroddedig sy’n cadw cefn gwlad yn lan i bawb – i’r ffermwyr sy’n gweithio yno, i warchod byd natur ac i bobl y dref i fynd i fwynhau cefn gwlad. 

Yn y rhaglen ddogfen DRYCH: Pla ar S4C nos Sul, 21 Ebrill, 9.00pm, byddwn yn dilyn amrywiaeth ddiddorol o’r bobl sy’n gwneud y swydd hollbwysig yma ar ffermydd a thiroedd agored yng ngogledd a gorllewin Cymru. O’r drudwy i’r twrch daear, o’r llwynog i’r gŵydd gwyllt, o’r wiwer lwyd i’r llygoden fawr, mae’r rheolwyr pla yn barod i’w rheoli ymhob tywydd dros y pedwar tymor.

Dyna i chi reolwyr pla Cyngor Sir Ceredigion, y Wardeiniaid Cymunedol Nigel Jones a Roy Noble, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd ers blynyddoedd lawer ac yn dweud eu bod wrth eu bodd gyda’r gwaith o fynd i’r afael â phroblemau plâu.

Mae’r camerâu yn eu dilyn ar nifer o ffermydd y sir wrth iddyn nhw ddefnyddio gwenwyn a maglau i ddal llygod mawr, a’u hatal rhag lledaenu clefydau a bwyta porthiant anifeiliaid.

Meddai Nigel, “Mae’r llygod mawr ymhob man; maen nhw’n experts ar fyw ar unrhyw beth maen nhw’n galler gadael eu marc ar bopeth. Sach chi byth yn mynd i gael gwared arnyn nhw, y cwbl allwch ei wneud yw cadw’r numbers lawr.”

Mae Trystan Bevan, sy’n ffermio yn Eryri, yn benderfynol o reoli plâu ar dir ffermio a thir agored. Ei brif gonsyrn yw rheoli llygod mawr, gan ddefnyddio gynau a chŵn daear, ond mae hefyd yn dal tyrchod daear, sy’n troi tir pori, ac yn clirio gwyddau , sy’n domi’r tir, trwy saethu i’r awyr.

“Does gen i ddim problem hefo’r un anifail, nid lladd er mwyn lladd ydi o, ond lladd er mwyn medru parhau hefo’n busnes amaeth,” meddai Trystan.

I lawr yn Sir Benfro, mae teulu Charlie yn cadw 3,000 o wartheg godro ar ddwy fferm. Mae’r drudwennod yn bla yno gydol misoedd y gaeaf ac maen nhw’n gwario miloedd o bunnoedd yn cyflogi pobl saethu bangers i geisio atal yr adar rhag bwyta a domi dros fwyd anifeiliaid.

Mae’r ffermwr Gethin o Geredigion yn wynebu’r un heriau anodd gyda drudwennod: “Maen nhw’n torri dy galon di,” meddai, “Efallai eu bod nhw’n edrych yn dda ar y pier yn Aberystwyth, ond maen nhw’n bla yma.”

Mae Meurig Rees, swyddog cadwraeth Cymru BASC, y Gymdeithas Saethu A Chadwraeth, yn gweithio i leihau poblogaethau rhai anifeiliaid.

Rydym yn ei ddilyn ar gynefinoedd fferm a thir gwyllt wrth iddo faglu gwiwerod llwyd, sy’n bygwth bodolaeth y gwiwerod coch brodorol, ac yn saethu llwynogod, sy’n lladd defaid a dofenod.

“Mae saethu a chadwraeth yn mynd law yn llaw ‘da’i gilydd yng nghefn gwlad. Ry’n ni’n saethu un anifail i achub anifail arall“meddai Meurig.Byddwn i yn gadael y darn lladd er mwyn lladd gan ei fod yn atgyfnerthu y pwynt nad trohy hunters mo rhain.

Continue Reading

Cymraeg

Edrych ar ochr dywyll Cymru

Avatar

Published

on

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.

Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.

A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.

“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”

Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.

Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.

Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.

“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”

Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?

“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.

“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”

Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”

Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.

“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.

“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.

“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”

Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK