Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Plannu’r Gymraeg yn yr Ardd Fotaneg

Avatar

Published

on

Mae'r ymgyrchwyr yn gobeithio bod y Gymraeg yn cymryd gwreiddiau yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Mae’r ymgyrchwyr yn gobeithio
bod y Gymraeg yn cymryd
gwreiddiau yn yr Ardd Fotaneg
Genedlaethol.

AR ÔL derbyn llythyr gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae rhai o’n haelodau a’n cefnogwyr lleol wedi mynd ati i ‘blannu’ a galw bod gwreiddio’r Gymraeg yn y sefydliad.

Bythefnos yn ôl cododd ffrae wedi i arwyddion uniaith Saesneg gael eu codi i hyrwyddo digwyddiadau yn yr Ardd ac iddi ddod yn amlwg fod yr Ardd yn torri ei gynllun iaith drwy ohebu yn uniaith Saesneg ac nad yw rhannau o’i wefan yn ddwyieithog.

Dywedodd Amy Jones, Is- Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal: “Fe wnaethon ni ddweud mewn llythyr at yr Ardd yn ddiweddar ein bod ni’n poeni am ei agwedd tuag at y Gymraeg, eu bod yn ddiystyriol ac yn ymylu ar fod yn sarhaus. Dydy’r ymateb i’n llythyr yn gwneud dim i’n argyhoeddi fod unrhyw beth am newid. Felly drwy blannu blodau gyda’n galwadau ni – fod yr Ardd yn cadw at ei gynllun iaith a dweud y byddan nhw’n symud i weithio’n fewnol drwy’r Gymraeg; rydyn ni’n gwneud rhywbeth cadarnhaol i annog yr Ardd a thynnu eu sylw at yr angen i’r Gymraeg gael ei gwreiddio ynddi.

“Nid rhywbeth i’w wneud os oes amser yw codi arwyddion Cymraeg neu ddanfon llythyr dwyieithog – rhywbeth ddylai digwydd yn naturiol. Mae tipyn o gryfder teimlad wedi bod am y sefyllfa, ac er bod Rosetta Plummer, Cyfarwyddwr yr Ardd, yn ymddiheuro am achosi hynny ac yn cydnabod nad ydyn nhw wedi meddwl am y Gymraeg does dim byd pendant sydd yn awgrymu bydd pethau’n newid. Mae’n glir fod yr Ardd yn ystyried y Gymraeg fel rhywbeth ar wahân, sydd yn ymateb cyffredin gan nifer o sefydliadau, ac yn esgus rhwydd iawn. Gan fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud ymrwymiad i weithio tuag at fod yn sefydliad sydd yn gweithio’n Gymraeg does dim rheswm pam na allai’r Ardd wneud yr un peth yn raddol. ”

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru i atal nawdd cyhoeddus i’r Ardd nes bod yr ardd yn ymrwymo i gadw at ei gynllun iaith. Maent yn aros ymateb y Llywodraeth ac roedd Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes yn trafod eu cyfraniad ariannol i’r Ardd.

Ychwanegodd Amy Jones: “Petai’r ddau gorff yn dweud eu bod yn difrif ystyried dal cyllid i’r Ardd nôl byddai’n dangos yn glir eu bod nhw’n cymeryd eu cyfrifoldeb tuag at y Gymraeg fel noddwyr o ddifrif. Gobeithio na ddaw hi i hynny wrth gwrs a bydd y Gymraeg, fel ein bylbiau ni, yn blodeuo.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Genweirwyr o bob gallu yn cael y cyfle i bysgota yn afon Tawe

Avatar

Published

on

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud gwelliannau diweddar a fydd yn galluogi genweirwyr o bob gallu i gael mynediad at afon Tawe yng Nghlydach, Abertawe, er mwyn dilyn eu camp o bysgota mewn afonydd.

Yn rhan o’r gwaith, adeiladwyd llwybrau, grisiau a phlatfformau sy’n cynnig rhywle diogel i gyrraedd mannau pysgota ar hyd yr afon, ac mae’n cynnwys adnewyddu platfform genweirio anabl sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Dywedodd uwch-swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru, Dave Charlesworth:

“Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gylch gorchwyl i ddatblygu pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru, ac mae ail-fuddsoddi refeniw sy’n deillio o werthu trwyddedau pysgota â gwialen yn un ffordd y gallwn sicrhau bod pobl o bob gallu yn cael mannau pysgota o safon uchel yn agos i ble maen nhw’n byw.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gymdeithas genweirio leol, Cymdeithas Genweirio Mond, i ddatblygu ei hisadeiledd genweirio fel ei bod hi’n haws i aelodau gyrraedd afon Tawe i bysgota.

“Yn wir, dyma un o’r prin leoliadau ar hyd afonydd yn ne-orllewin Cymru sy’n cynnig cyfle realistig i enweiriwr anabl ddal eog.

Dywedodd Mike Oliver, Ysgrifennydd Cymdeithas Genweirio Mond:

“Bydd y gwelliannau hyn y mae mawr eu hangen ar ein darn ni o afon Tawe yn galluogi ein haelodau ifanc, hŷn ac eiddil i fanteisio ar yr afon, ac oherwydd y grisiau newydd ar ochr Abertawe o Bont Glais, gallwn fynd i leoedd yn is ar yr afon am y tro cyntaf erioed.

“Mae gan Gymdeithas Genweirio Mond gysylltiad hir â Chlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Purfa Nicel Cwm Clydach, a bydd gwelliannau Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyd y darn hwn o’r afon yn galluogi mwy o bobl i fwynhau manteision cymdeithasol ac iechyd pysgota ar gyfer brithyllod, brithyllod y môr ac eogiaid.”

Continue Reading

Cymraeg

Merch o Lanelli yn ceisio cipio coron Miss Universe

Avatar

Published

on

MAE LLANELLI yn fwy adnabyddus am ei rygbi na’i chysylltiad gyda’r byd harddwch, ond mae’r dref hefyd ar fap y pasiantau harddwch erbyn hyn, diolch i Emma Jenkins un o ferched tre’r sosban. Ym mis Rhagfyr y llynedd Emma oedd yn cynrychioli Prydain Fawr yng ngornest harddwch fwya’r bydysawd, Miss Universe yn Atlanta.

Mewn portread agored, cawn ddod i adnabod Emma wrth iddi gystadlu am goron Miss Universe 2019. Cawn hefyd weld beth yw realiti bywyd i fenyw mwyaf prydferth Prydain yn DRYCH: Miss Universe a fydd i’w gweld ar S4C ar 2 Chwefror am 9.00. Byddwn yn dod i’w hadnabod oddi ar y catwalks a’r byd ffasiwn.

Dywedodd Emma, sy’n 26 mlwydd oed, “Miss Universe yw’r freuddwyd ers ennill Miss Cymru yn 2015. I gyrraedd, mae angen ennill Miss Prydain Fawr ac mae honno ei hun yn gystadleuaeth fawr ac anodd, o ni wir ddim yn credu y byddwn yn cal fy newis. Roeddwn wedi tynnu allan dwy waith o’r blaen gan fod llais yn fy mhen yn dweud fy mod i ddim digon da.


“Mae’n fraint bod ymhlith y 90 o ferched profiadol a hyderus sy’n cystadlu am Miss Universe. Mae rhai ohonynt yn gyfreithwyr hawliau dynol a rhai yn athrawon. Dyna beth y ni mewn gwirionedd, merched cyffredin sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Ma’n hawdd anghofio pwer un person i neud pethau da. Does dim cattyness fel ma pobl yn feddwl. Dwi jyst yn ferch o Lanelli sy’n trio gwneud gwahaniaeth.”

Cyn cyrraedd America, bydd Emma’n gadael cefn gwlad sir Gâr am slymiau India, i ymweld â Stop Acid Attacks, un o’r elusennau ma hi’n ei chefnogi. Sut bydd y profiad yn effeitho arni?

Gyda pwyslais mawr ar godi arian, bydd enillydd Miss Universe yn cael eu cyflogi am flwyddyn, yn cael fflat yn Efrog newydd ac yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o waith dyngarol o’u dewis. Mae’r gystadleuaeth fawreddog, a sefydlwyd yn Long Beach, California yn 1952, yn cael ei wylio gan dros hanner biliwn o bobl ac yn cael ei ddarlledu mewn mwy na 150 o wledydd. Wrth brofi cyffro’r byd hudol, cawn hefyd weld tu ôl y llen a darganfod beth sy’n ysgogi Emma.

“Rwyf wedi cael fy siâr o frwydrau ar ôl bod mewn perthynas ddinistriol. Roedd yn amser anodd iawn – un nad ydwyf wedi gallu siarad amdano yn gyhoeddus o’r blaen. Yn sicr, mae wedi fy ngwneud yn benderfynol o lwyddo.

“Hap a damwain oedd dod mewn i’r byd ma pan o ni’n 16 mlwydd oed. O ni’n gwybod dim am pageants nes cael fy nghyflwyno gan Huw Fash. Nawr, dwi wrth fy modd yn trafod a ceisio newid y ffordd ma pobl yn feddwl amdanynt.

“Mae pethe wedi newid ers amser vital stats ar y screen a phan oedd merched prin yn siarad. Nawr, personoliaeth sy’n bwysig ac mae harddwch yn cyfri am llai na hanner y pwyntiau. Mae cymaint o bobl ifanc heddiw yn becso dim am y byd. Gall y beirniad ofyn am unrhyw bwnc cyfoes felly mae’n rhaid cael barn a gwybod sut i’w fynegi.”

Beth fydd ffawd Emma yn y gystadleuaeth fawreddog? A fydd y daith yn newid ei bywyd? A fydd hi’n dychwelyd i Lanelli fel Miss Universe? Beth fydd ymateb y dref petae hi’n ennill?

Bwriad DRYCH: Miss Universe yw herio agweddau a chynnig persbectif ffres o’r pasiant, beth mae’n ei symboleiddio, sut mae’r ornest wedi newid dros y blynyddoedd a sut mae ein barn o harddwch wedi esblygu. Mewn gwledd weledol, bydd cyfle unigryw i brofi pasiant mwya’r byd trwy lygaid y ferch gyffredin o Lanelli.

Continue Reading

Cymraeg

Eisteddfod Llangollen yn Lansio Rhaglen 2020

Avatar

Published

on

MAE Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi ei raglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020), ac mae tocynnau nawr ar werth.
Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y 74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd, cyn dod i ben llanw gyda gwobr fawreddog Côr y Byd.


Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry, “Rydym yn falch iawn o lansio ein rhaglen o ragoriaeth gerddorol ac amrywiaeth rhyngwladol. Mae’n nod cyson gennym i ddod ag artistiaid cerddorol a dawns gorau’r byd ynghyd yma yng Nghymru, i berfformio yn ysbryd cyfeillgarwch.


“Mae’r digwyddiadau dyddiol yn adlewyrchu ein gweledigaeth o hybu heddwch trwy gerddoriaeth ac mae’r cyngherddau nos yn cynnig rhywbeth i bawb.”


Agorir rhaglen cyngherddau 2020 ddydd Mawrth 7fed Gorffennaf gyda dau o fawrion y byd canu clasurol, Aled Jones a Russell Watson. Ar nos Fercher 8fed Gorffennaf fe fydd Fusion, gydag ymddangosiad gan y Manchester Collective a’u sioe Sirocco, yn cynnig noson unigryw gyda naws yr Eisteddfod Ryngwladol yn ei hanfod wrth i elfennau cerddorol o ddiwylliannau gwahanol eistedd ochr yn ochr. Fe fydd brenhines ‘Soul’ Prydain, Beverley Knight, yn perfformio yn Llangollen am y tro cyntaf ar y nos Wener lle disgwylir sioe fyrlymus. Yr enillwyr gwobrau BRIT, James Morrison a Will Young, fydd ar frig lein-yp Llanfest 2020, mewn diweddglo gwych arall i wythnos yr Eisteddfod.


Croesawir dros 4,000 o berfformwyr i’r ŵyl flynyddol dros wythnos yr Eisteddfod, sy’n ddathliad cywrain o gerddoriaeth, diwylliant, creadigrwydd a chydweithio rhyngwladol. Mae’n hwb allweddol i dwristiaeth ddiwylliannol Gogledd Cymru gan ddenu dros 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK