Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Creu dyfodol newydd

Avatar

Published

on

Mae hi wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg: Rebecca Evans AC

Mae hi wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg: Rebecca Evans AC

AR DDYDD MAWRTH, 21 Gorffennaf, mewn digwyddiad yn adeilad S4C ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn diweddaru unigolion o draws-doriad o sefydliadau Cymreig ar ddatblygiad cyffrous Canolfan S4C Yr Egin a fydd yn agor yn Nghaerfyrddin yn 2018.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y cyfleon a gynigir gan Ganolfan S4C Yr Egin i greu dyfodol newydd i’r iaith Gymraeg ac i’r economi drwy Gymru gyfan ac yn cynnwys diweddariad ar y project gan Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn dilyn croeso gan Brif Weithredwr S4C, Ian Jones.

Hefyd yn bresennol i sôn am eu hymrwymiad i ddatblygiad yr iaith a’r economi yng nghefn gwlad Cymru fydd y Dirprwy Weinidog dros Fwyd ac Amaeth, Rebecca Evans AC; Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws a Phrif Weithredwr Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru, Steve Hughson.

O ran Canolfan S4C Yr Egin, dyma ddatblygiad a fydd yn gartref i gymuned diwylliannol fyrlymus – cyfnewidfa amlddisgyblaethol, entrepreneuraidd a chreadigol a fydd wedi’i lleoli yng Ngorllewin Cymru. Yn gartref i dros 25 o gwmnïau a sefydliadau cysylltiedig, bydd yn ganolfan lle gall pobl, cysylltiadau, syniadau a doniau sbarduno’i gilydd.

Mae’r weledigaeth hon yn gosod Canolfan S4C Yr Egin mewn sefyllfa gref i sbarduno adfywiad ieithyddol mewn sir lle mae cynnal y Gymraeg yn gwbl hanfodol i unrhyw strategaeth iaith genedlaethol.

Wedi ei lleoli yn nhref hynaf Cymru ac o fewn taith 90 munud i oddeutu 65% o holl siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru, bwriad Canolfan S4C Yr Egin yw effeithio’n arwyddocaol ar yr iaith Gymraeg a’r defnydd ohoni mewn ardal lle mae cynnal hyfywedd cymunedau traddodiadol Cymraeg yn flaenoriaeth polisi, ac ar y diwylliant cysylltiedig a fu’n nodwedd gyfoethog o Sir Gâr erioed.

Un o brif nodau Canolfan S4C Yr Egin – yn ogystal â Chanolfan Gymraeg newydd y Brifysgol sydd ar fin agor yn nghanol tref Caerfyrddin – yw i fod yn gatalydd er mwyn hybu adfywiad ieithyddol yn Sir Gaerfyrddin gan gefnogi datblygiad Caerfyrddin yn dref arloesol i’r Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg.

O ran yr economi, caiff Canolfan S4C Yr Egin gryn effaith yn lleol ac yn rhanbarthol gyda hyd at 200 o swyddi – yn cynnwys tua 50 o swyddi y bwriada S4C eu hadleoli o Gaerdydd – yn cael eu sefydlu o fewn Canolfan S4C Yr Egin.

Wrth reswm, bydd y swyddi hyn yn cefnogi cannoedd o swyddi pellach ar draws y rhanbarth ac yn cael effaith economaidd eang ar yr ardal.

“Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ddatblygiad cyffrous, beiddgar a thrawsnewidiol a fydd yn sicr yn effeithio’n gadarnhaol ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg a’r economi yn lleol o fewn Sir Gâr; o fewn ardal ehangach Dinas Rhanbarth Bae Abertawe a thrwy Gymru gyfan,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac arweinydd y project ar ran y Brifysgol.

Atega Gwilym Dyfri Jones: “Wrth ddod ag ystod o ymarferwyr creadigol, digidol a diwylliannol at ei gilydd yn yr un adeilad, bydd cyfle i gydleoli ystod o sgiliau a doniau i gyfnewid gwybodaeth, arloesiachreucyflogaeth gyda’r iaith Gymraeg yn ganolog ac yn greiddiol i’r datblygiad.”

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Mae’n cynlluniau i adleoli Pencadlys S4C i Gaerfyrddin yn 2018 yn rhan o uchelgais sydd gyda ni i wneud popeth gallwn ni i hybu’r Gymraeg, i hybu’r economi ac wrth gwrs i barhau i wella’r gwasanaethau mae S4C yn eu cynnig i’n cynulleidfa. Gyda’r holl ffocws ar ddyfodol ariannol y sianel a thrafodaethau gwleidyddol, mae’n bwysig cofio’r cynlluniau cyffrous sydd gyda ni ar y gweill a’r buddiannau economaidd ac ieithyddol a ddaw yn eu sgil.”

Meddai’r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gâr: “Rydym yn hyderus y bydd codi adeilad newydd pwrpasol ac eiconig yn y dref yn sbardun ar gyfer hyrwyddo datblygu economaidd ar draws y rhanbarth a’r wlad. Bydd tua 150 o swyddi’n cael eu creu yn sgil y cynlluniau, a byddai o gymorth mawr iawn i’r economi leol. Bydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i’r iaith Gymraeg, gan ddarparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg gael swyddi o safon.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Genweirwyr o bob gallu yn cael y cyfle i bysgota yn afon Tawe

Avatar

Published

on

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud gwelliannau diweddar a fydd yn galluogi genweirwyr o bob gallu i gael mynediad at afon Tawe yng Nghlydach, Abertawe, er mwyn dilyn eu camp o bysgota mewn afonydd.

Yn rhan o’r gwaith, adeiladwyd llwybrau, grisiau a phlatfformau sy’n cynnig rhywle diogel i gyrraedd mannau pysgota ar hyd yr afon, ac mae’n cynnwys adnewyddu platfform genweirio anabl sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Dywedodd uwch-swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru, Dave Charlesworth:

“Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gylch gorchwyl i ddatblygu pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru, ac mae ail-fuddsoddi refeniw sy’n deillio o werthu trwyddedau pysgota â gwialen yn un ffordd y gallwn sicrhau bod pobl o bob gallu yn cael mannau pysgota o safon uchel yn agos i ble maen nhw’n byw.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gymdeithas genweirio leol, Cymdeithas Genweirio Mond, i ddatblygu ei hisadeiledd genweirio fel ei bod hi’n haws i aelodau gyrraedd afon Tawe i bysgota.

“Yn wir, dyma un o’r prin leoliadau ar hyd afonydd yn ne-orllewin Cymru sy’n cynnig cyfle realistig i enweiriwr anabl ddal eog.

Dywedodd Mike Oliver, Ysgrifennydd Cymdeithas Genweirio Mond:

“Bydd y gwelliannau hyn y mae mawr eu hangen ar ein darn ni o afon Tawe yn galluogi ein haelodau ifanc, hŷn ac eiddil i fanteisio ar yr afon, ac oherwydd y grisiau newydd ar ochr Abertawe o Bont Glais, gallwn fynd i leoedd yn is ar yr afon am y tro cyntaf erioed.

“Mae gan Gymdeithas Genweirio Mond gysylltiad hir â Chlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Purfa Nicel Cwm Clydach, a bydd gwelliannau Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyd y darn hwn o’r afon yn galluogi mwy o bobl i fwynhau manteision cymdeithasol ac iechyd pysgota ar gyfer brithyllod, brithyllod y môr ac eogiaid.”

Continue Reading

Cymraeg

Merch o Lanelli yn ceisio cipio coron Miss Universe

Avatar

Published

on

MAE LLANELLI yn fwy adnabyddus am ei rygbi na’i chysylltiad gyda’r byd harddwch, ond mae’r dref hefyd ar fap y pasiantau harddwch erbyn hyn, diolch i Emma Jenkins un o ferched tre’r sosban. Ym mis Rhagfyr y llynedd Emma oedd yn cynrychioli Prydain Fawr yng ngornest harddwch fwya’r bydysawd, Miss Universe yn Atlanta.

Mewn portread agored, cawn ddod i adnabod Emma wrth iddi gystadlu am goron Miss Universe 2019. Cawn hefyd weld beth yw realiti bywyd i fenyw mwyaf prydferth Prydain yn DRYCH: Miss Universe a fydd i’w gweld ar S4C ar 2 Chwefror am 9.00. Byddwn yn dod i’w hadnabod oddi ar y catwalks a’r byd ffasiwn.

Dywedodd Emma, sy’n 26 mlwydd oed, “Miss Universe yw’r freuddwyd ers ennill Miss Cymru yn 2015. I gyrraedd, mae angen ennill Miss Prydain Fawr ac mae honno ei hun yn gystadleuaeth fawr ac anodd, o ni wir ddim yn credu y byddwn yn cal fy newis. Roeddwn wedi tynnu allan dwy waith o’r blaen gan fod llais yn fy mhen yn dweud fy mod i ddim digon da.


“Mae’n fraint bod ymhlith y 90 o ferched profiadol a hyderus sy’n cystadlu am Miss Universe. Mae rhai ohonynt yn gyfreithwyr hawliau dynol a rhai yn athrawon. Dyna beth y ni mewn gwirionedd, merched cyffredin sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Ma’n hawdd anghofio pwer un person i neud pethau da. Does dim cattyness fel ma pobl yn feddwl. Dwi jyst yn ferch o Lanelli sy’n trio gwneud gwahaniaeth.”

Cyn cyrraedd America, bydd Emma’n gadael cefn gwlad sir Gâr am slymiau India, i ymweld â Stop Acid Attacks, un o’r elusennau ma hi’n ei chefnogi. Sut bydd y profiad yn effeitho arni?

Gyda pwyslais mawr ar godi arian, bydd enillydd Miss Universe yn cael eu cyflogi am flwyddyn, yn cael fflat yn Efrog newydd ac yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o waith dyngarol o’u dewis. Mae’r gystadleuaeth fawreddog, a sefydlwyd yn Long Beach, California yn 1952, yn cael ei wylio gan dros hanner biliwn o bobl ac yn cael ei ddarlledu mewn mwy na 150 o wledydd. Wrth brofi cyffro’r byd hudol, cawn hefyd weld tu ôl y llen a darganfod beth sy’n ysgogi Emma.

“Rwyf wedi cael fy siâr o frwydrau ar ôl bod mewn perthynas ddinistriol. Roedd yn amser anodd iawn – un nad ydwyf wedi gallu siarad amdano yn gyhoeddus o’r blaen. Yn sicr, mae wedi fy ngwneud yn benderfynol o lwyddo.

“Hap a damwain oedd dod mewn i’r byd ma pan o ni’n 16 mlwydd oed. O ni’n gwybod dim am pageants nes cael fy nghyflwyno gan Huw Fash. Nawr, dwi wrth fy modd yn trafod a ceisio newid y ffordd ma pobl yn feddwl amdanynt.

“Mae pethe wedi newid ers amser vital stats ar y screen a phan oedd merched prin yn siarad. Nawr, personoliaeth sy’n bwysig ac mae harddwch yn cyfri am llai na hanner y pwyntiau. Mae cymaint o bobl ifanc heddiw yn becso dim am y byd. Gall y beirniad ofyn am unrhyw bwnc cyfoes felly mae’n rhaid cael barn a gwybod sut i’w fynegi.”

Beth fydd ffawd Emma yn y gystadleuaeth fawreddog? A fydd y daith yn newid ei bywyd? A fydd hi’n dychwelyd i Lanelli fel Miss Universe? Beth fydd ymateb y dref petae hi’n ennill?

Bwriad DRYCH: Miss Universe yw herio agweddau a chynnig persbectif ffres o’r pasiant, beth mae’n ei symboleiddio, sut mae’r ornest wedi newid dros y blynyddoedd a sut mae ein barn o harddwch wedi esblygu. Mewn gwledd weledol, bydd cyfle unigryw i brofi pasiant mwya’r byd trwy lygaid y ferch gyffredin o Lanelli.

Continue Reading

Cymraeg

Eisteddfod Llangollen yn Lansio Rhaglen 2020

Avatar

Published

on

MAE Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi ei raglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020), ac mae tocynnau nawr ar werth.
Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y 74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd, cyn dod i ben llanw gyda gwobr fawreddog Côr y Byd.


Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry, “Rydym yn falch iawn o lansio ein rhaglen o ragoriaeth gerddorol ac amrywiaeth rhyngwladol. Mae’n nod cyson gennym i ddod ag artistiaid cerddorol a dawns gorau’r byd ynghyd yma yng Nghymru, i berfformio yn ysbryd cyfeillgarwch.


“Mae’r digwyddiadau dyddiol yn adlewyrchu ein gweledigaeth o hybu heddwch trwy gerddoriaeth ac mae’r cyngherddau nos yn cynnig rhywbeth i bawb.”


Agorir rhaglen cyngherddau 2020 ddydd Mawrth 7fed Gorffennaf gyda dau o fawrion y byd canu clasurol, Aled Jones a Russell Watson. Ar nos Fercher 8fed Gorffennaf fe fydd Fusion, gydag ymddangosiad gan y Manchester Collective a’u sioe Sirocco, yn cynnig noson unigryw gyda naws yr Eisteddfod Ryngwladol yn ei hanfod wrth i elfennau cerddorol o ddiwylliannau gwahanol eistedd ochr yn ochr. Fe fydd brenhines ‘Soul’ Prydain, Beverley Knight, yn perfformio yn Llangollen am y tro cyntaf ar y nos Wener lle disgwylir sioe fyrlymus. Yr enillwyr gwobrau BRIT, James Morrison a Will Young, fydd ar frig lein-yp Llanfest 2020, mewn diweddglo gwych arall i wythnos yr Eisteddfod.


Croesawir dros 4,000 o berfformwyr i’r ŵyl flynyddol dros wythnos yr Eisteddfod, sy’n ddathliad cywrain o gerddoriaeth, diwylliant, creadigrwydd a chydweithio rhyngwladol. Mae’n hwb allweddol i dwristiaeth ddiwylliannol Gogledd Cymru gan ddenu dros 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK