Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Rhaid i arian ddilyn geiriau cynnes ar S4C

Avatar

Published

on

Dangoswch yr arian: Aled Roberts AC

Dangoswch yr arian: Aled Roberts AC

MAE’N RHAID i eiriau cynnes y BBC gydfynd ag ymrwymiad i gyllideb cynaladwy ar gyfer S4C, meddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Wrth i Brif Gyfarwyddwr y BBC Tony Hall egluro ei weledigaeth ar gyfer y BBC fel rhan o broses adnewyddu ei siarter, mae Aled Roberts AC wedi rhybuddio gall ddyfodol darlledu Cymraeg fod yn y fantol os nag yw cyllideb S4C yn cael ei eithrio o doriadau.

Mae’r dogfen cynigion yn dweud bod: “The BBC is fully committed to broadcasting and providing services in the UK’s indigenous minority languages,” ond nid yw’n rhoi unrhyw wybodaeth o gynlluniau cyllid ar gyfer S4C. Mae disgwyl i’r manylion hyn gael eu rhyddhau “yn hwyrach yn y flwyddyn.”

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi arwain galwadau i amddiffyn cyllideb S4C o doriadau gan y BBC a Llywodraeth y DU. Cliciwch fan hyn i gefnogi’r ymgyrch drwy arwyddo’r deiseb.

Dywedodd Aled Roberts AC, Gweinidog Cysgodol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros y Gymraeg: “Wrth gwrs bod croeso i eiriau cynnes ac addewidion i rannu gwasanaethau gydag S4C, ond er mwyn sicrhau dyfodol darlledu Cymraeg mae’n rhaid i arian go iawn ddod gyda’i eiriau cynnes.

“Mae S4C yn gwneud cyfraniad aruthrol i amddiffyn ein hiaith a chyfoethogi diwylliant Cymreig, yn ogystal â dod ag elw i economi ein cenedl. Mae pob £1 a wariwyd gan S4C yn werth £2.09 i’r economi Gymreig

“Un peth yw addo gweithio’n fwy agos gydag S4C ond os na welwn ni ymrwymiad cadarn i ariannu cynaladwy i’r sianel, efallai na fydd S4C yno i weithio gyda. Mae angen yr ymrwymiadau hyn nawr er mwyn i’r sianel gynllunio ei waith ar gyfer y dyfodol.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Genweirwyr o bob gallu yn cael y cyfle i bysgota yn afon Tawe

Avatar

Published

on

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud gwelliannau diweddar a fydd yn galluogi genweirwyr o bob gallu i gael mynediad at afon Tawe yng Nghlydach, Abertawe, er mwyn dilyn eu camp o bysgota mewn afonydd.

Yn rhan o’r gwaith, adeiladwyd llwybrau, grisiau a phlatfformau sy’n cynnig rhywle diogel i gyrraedd mannau pysgota ar hyd yr afon, ac mae’n cynnwys adnewyddu platfform genweirio anabl sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Dywedodd uwch-swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru, Dave Charlesworth:

“Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gylch gorchwyl i ddatblygu pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru, ac mae ail-fuddsoddi refeniw sy’n deillio o werthu trwyddedau pysgota â gwialen yn un ffordd y gallwn sicrhau bod pobl o bob gallu yn cael mannau pysgota o safon uchel yn agos i ble maen nhw’n byw.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gymdeithas genweirio leol, Cymdeithas Genweirio Mond, i ddatblygu ei hisadeiledd genweirio fel ei bod hi’n haws i aelodau gyrraedd afon Tawe i bysgota.

“Yn wir, dyma un o’r prin leoliadau ar hyd afonydd yn ne-orllewin Cymru sy’n cynnig cyfle realistig i enweiriwr anabl ddal eog.

Dywedodd Mike Oliver, Ysgrifennydd Cymdeithas Genweirio Mond:

“Bydd y gwelliannau hyn y mae mawr eu hangen ar ein darn ni o afon Tawe yn galluogi ein haelodau ifanc, hŷn ac eiddil i fanteisio ar yr afon, ac oherwydd y grisiau newydd ar ochr Abertawe o Bont Glais, gallwn fynd i leoedd yn is ar yr afon am y tro cyntaf erioed.

“Mae gan Gymdeithas Genweirio Mond gysylltiad hir â Chlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Purfa Nicel Cwm Clydach, a bydd gwelliannau Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyd y darn hwn o’r afon yn galluogi mwy o bobl i fwynhau manteision cymdeithasol ac iechyd pysgota ar gyfer brithyllod, brithyllod y môr ac eogiaid.”

Continue Reading

Cymraeg

Merch o Lanelli yn ceisio cipio coron Miss Universe

Avatar

Published

on

MAE LLANELLI yn fwy adnabyddus am ei rygbi na’i chysylltiad gyda’r byd harddwch, ond mae’r dref hefyd ar fap y pasiantau harddwch erbyn hyn, diolch i Emma Jenkins un o ferched tre’r sosban. Ym mis Rhagfyr y llynedd Emma oedd yn cynrychioli Prydain Fawr yng ngornest harddwch fwya’r bydysawd, Miss Universe yn Atlanta.

Mewn portread agored, cawn ddod i adnabod Emma wrth iddi gystadlu am goron Miss Universe 2019. Cawn hefyd weld beth yw realiti bywyd i fenyw mwyaf prydferth Prydain yn DRYCH: Miss Universe a fydd i’w gweld ar S4C ar 2 Chwefror am 9.00. Byddwn yn dod i’w hadnabod oddi ar y catwalks a’r byd ffasiwn.

Dywedodd Emma, sy’n 26 mlwydd oed, “Miss Universe yw’r freuddwyd ers ennill Miss Cymru yn 2015. I gyrraedd, mae angen ennill Miss Prydain Fawr ac mae honno ei hun yn gystadleuaeth fawr ac anodd, o ni wir ddim yn credu y byddwn yn cal fy newis. Roeddwn wedi tynnu allan dwy waith o’r blaen gan fod llais yn fy mhen yn dweud fy mod i ddim digon da.


“Mae’n fraint bod ymhlith y 90 o ferched profiadol a hyderus sy’n cystadlu am Miss Universe. Mae rhai ohonynt yn gyfreithwyr hawliau dynol a rhai yn athrawon. Dyna beth y ni mewn gwirionedd, merched cyffredin sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Ma’n hawdd anghofio pwer un person i neud pethau da. Does dim cattyness fel ma pobl yn feddwl. Dwi jyst yn ferch o Lanelli sy’n trio gwneud gwahaniaeth.”

Cyn cyrraedd America, bydd Emma’n gadael cefn gwlad sir Gâr am slymiau India, i ymweld â Stop Acid Attacks, un o’r elusennau ma hi’n ei chefnogi. Sut bydd y profiad yn effeitho arni?

Gyda pwyslais mawr ar godi arian, bydd enillydd Miss Universe yn cael eu cyflogi am flwyddyn, yn cael fflat yn Efrog newydd ac yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o waith dyngarol o’u dewis. Mae’r gystadleuaeth fawreddog, a sefydlwyd yn Long Beach, California yn 1952, yn cael ei wylio gan dros hanner biliwn o bobl ac yn cael ei ddarlledu mewn mwy na 150 o wledydd. Wrth brofi cyffro’r byd hudol, cawn hefyd weld tu ôl y llen a darganfod beth sy’n ysgogi Emma.

“Rwyf wedi cael fy siâr o frwydrau ar ôl bod mewn perthynas ddinistriol. Roedd yn amser anodd iawn – un nad ydwyf wedi gallu siarad amdano yn gyhoeddus o’r blaen. Yn sicr, mae wedi fy ngwneud yn benderfynol o lwyddo.

“Hap a damwain oedd dod mewn i’r byd ma pan o ni’n 16 mlwydd oed. O ni’n gwybod dim am pageants nes cael fy nghyflwyno gan Huw Fash. Nawr, dwi wrth fy modd yn trafod a ceisio newid y ffordd ma pobl yn feddwl amdanynt.

“Mae pethe wedi newid ers amser vital stats ar y screen a phan oedd merched prin yn siarad. Nawr, personoliaeth sy’n bwysig ac mae harddwch yn cyfri am llai na hanner y pwyntiau. Mae cymaint o bobl ifanc heddiw yn becso dim am y byd. Gall y beirniad ofyn am unrhyw bwnc cyfoes felly mae’n rhaid cael barn a gwybod sut i’w fynegi.”

Beth fydd ffawd Emma yn y gystadleuaeth fawreddog? A fydd y daith yn newid ei bywyd? A fydd hi’n dychwelyd i Lanelli fel Miss Universe? Beth fydd ymateb y dref petae hi’n ennill?

Bwriad DRYCH: Miss Universe yw herio agweddau a chynnig persbectif ffres o’r pasiant, beth mae’n ei symboleiddio, sut mae’r ornest wedi newid dros y blynyddoedd a sut mae ein barn o harddwch wedi esblygu. Mewn gwledd weledol, bydd cyfle unigryw i brofi pasiant mwya’r byd trwy lygaid y ferch gyffredin o Lanelli.

Continue Reading

Cymraeg

Eisteddfod Llangollen yn Lansio Rhaglen 2020

Avatar

Published

on

MAE Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi ei raglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020), ac mae tocynnau nawr ar werth.
Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y 74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd, cyn dod i ben llanw gyda gwobr fawreddog Côr y Byd.


Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry, “Rydym yn falch iawn o lansio ein rhaglen o ragoriaeth gerddorol ac amrywiaeth rhyngwladol. Mae’n nod cyson gennym i ddod ag artistiaid cerddorol a dawns gorau’r byd ynghyd yma yng Nghymru, i berfformio yn ysbryd cyfeillgarwch.


“Mae’r digwyddiadau dyddiol yn adlewyrchu ein gweledigaeth o hybu heddwch trwy gerddoriaeth ac mae’r cyngherddau nos yn cynnig rhywbeth i bawb.”


Agorir rhaglen cyngherddau 2020 ddydd Mawrth 7fed Gorffennaf gyda dau o fawrion y byd canu clasurol, Aled Jones a Russell Watson. Ar nos Fercher 8fed Gorffennaf fe fydd Fusion, gydag ymddangosiad gan y Manchester Collective a’u sioe Sirocco, yn cynnig noson unigryw gyda naws yr Eisteddfod Ryngwladol yn ei hanfod wrth i elfennau cerddorol o ddiwylliannau gwahanol eistedd ochr yn ochr. Fe fydd brenhines ‘Soul’ Prydain, Beverley Knight, yn perfformio yn Llangollen am y tro cyntaf ar y nos Wener lle disgwylir sioe fyrlymus. Yr enillwyr gwobrau BRIT, James Morrison a Will Young, fydd ar frig lein-yp Llanfest 2020, mewn diweddglo gwych arall i wythnos yr Eisteddfod.


Croesawir dros 4,000 o berfformwyr i’r ŵyl flynyddol dros wythnos yr Eisteddfod, sy’n ddathliad cywrain o gerddoriaeth, diwylliant, creadigrwydd a chydweithio rhyngwladol. Mae’n hwb allweddol i dwristiaeth ddiwylliannol Gogledd Cymru gan ddenu dros 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK