Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

‘Chwifiwch y ddraig goch nid jac yr undeb’

Avatar

Published

on

‘Chwifiwch y ddraig goch nid jac yr undeb’O’R CHWE Gwlad i rowndiau terfynol pêl-droed yr Ewros, bydd hedfan baner draig goch Cymru yn boblogaidd iawn eleni. Ond, mae awdur llyfr newydd ar hanes baner Cymru wedi galw ar bobl Cymru i beidio â hedfan baner Jac yr Undeb.

Credai’r awdur poblogaidd Siôn Jobbins ei fod yn gyfystyr â ‘ildio cenedligrwydd Cymreig’ i bobl yng Nghymru i hedfan baner Jac yr Undeb.

Mae ei sylwadau yn ymddangos mewn llyfryn newydd am faner eiconig Cymru a gyhoeddir gan Y Lolfa – y cyhoeddwyr a lansiodd sticeri Ddraig Goch yn arbennig i’w gosod ar ben faner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd yn ddiweddar.

‘Yn y pendraw, mae chwifio Jac yr Undeb yn golygu ildio i San Steffan a gwneud Cymru yn anweledig’ meddai Sion Jobbins ‘Ble mae gennym faner Jac yr Undeb – yn ystod Gemau Olympaidd mewn ychydig o fisoedd, er enghraifft, gwelwn fod Cymru yn anweledig a ddim yn bodoli. Mae hedfan Jac yr Undeb yn golygu cytuno bod ein Cymreictod ond yn gallu cael ei ganiatau o fewn cyfyngiadau a rheolau San Steffan yn unig.’

Mae’r llyfr yn adrodd y stori tu ôl i un o faneri mwyaf nodedig y byd a symbol mwyaf Cymru. Gwnaiff yr awdur sawl darganfyddiad diddorol iawn hefyd, megis y ffaith y gwnaed y faner fel y mae hi heddiw yn swyddogol yn 1959. Mae Sion yn cofio’r ymgyrchu a fu i gydnabod baner Cymru megis ymgyrchwyr lleol o genedlaetholwyr a myfyrwyr Bangor yn dringo i fyny polyn y fflag ar Dŵr yr Eryr yng nghastell Caernarfon ar ddydd Gwyl Dewi yn 1923 i rwygo Jac yr Undeb i lawr.

Mae’n debygol na bydd mwyafrif helaeth o bobl Cymru yn ymwybodol chwaith mai nid baner Cymru fel y mae hi heddiw oedd baner swyddogol Cymru yn yr 1950au. Yn hytrach, cynllun y Swyddfa Gymerig oedd y faner swyddogol. Dim ond yn dilyn ymgyrch fawr wedi ei harwain gan Orsedd yr Eisteddfod yn 1958 y penderfynodd y cabinet ny 1959 y byddai’r faner gyfarwydd a phoblogaidd, o’r diwedd, fod y faner swyddogol.

Mae Sion hefyd yn cynnig y dylai’r 28ain o Fai fod yn ‘Ddiwrnod Baner’ y Ddraig Goch am mai ar y diwrnod hwn yn ôl yn 1865 mae’r cofnod cyntaf o’r faner yn ei ffurf modern yn cael ei hedfan. Bu’r faner hefyd yn hedfan ar long y Mimosa wrth iddi hwylio o Lerpwl gyda’r ymfudwyr cyntaf ar gfyer y wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Cafodd Sion Jobbins ei eni yn Zambia a’i fagu yng Nghaerdydd. Fe hefyd yw awdur y llyfr poblogaidd The Welsh National Anthem: its story, its meaning’ hefyd wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa.

Mae The Red Dragon – The Story of the Welsh Flag yn gyfrol lliw llawn lluniau ac yn siwr o apelio at ymelwyr a brodorion i Gymru fel ei gilydd.

Mae The Red Dragon – The Story of the Welsh Flag gan Siôn Jobbins (£3.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Yr actor Iwan John yn aros am aren

Avatar

Published

on

MAE’R actor a’r digrifwr Iwan John yn adnabyddus am ei bersonoliaeth bywiog, bob amser yn cracio jôcs a thynnu coes. Ond yn Drych: Aros am Aren cawn wybod am y gwirionedd tu ôl i’w wên.
Gydag un aren wedi marw a’r llall yn dirywio’n gyflym, bydd Iwan o Bridell, Sir Benfro, yn rhoi disgrifiad agored ac emosiynol o sut beth yw aros am drawsblaniad yn y rhaglen ddogfen hon ar S4C am 9:00 nos Sul 10 Tachwedd.
Dywedodd Iwan: “Ti ddim yn gwybod sut deimlad yw bod ar y transplant list nes iddo ddigwydd i ti. Rydw i’n checio fy ffôn trwy’r amser. Ma’n cymryd drosodd dy fywyd. Y tric yw peidio â gadael iddo, er ei fod yn chwarae ar dy feddwl trwy’r amser.
“Dwi’n cofio’r diwrnod nes i ffeindio mas. O ni wedi mynd trwy fywyd yn meddwl fy mod i’n invincible. Yna, yn sydyn iawn mae rhywun yn dweud, un dydd bydd angen transplant arna ti.”
Roedd hwn yn gyfnod arwyddocaol i Iwan wrth iddo gwrdd â’i wraig, Non Parry, aelod o’r grŵp pop Eden tua’r un amser. Daeth hefyd i adnabod ffrind Non, y cyfansoddwr Steffan Rhys Williams. Dros yr ugain mlynedd nesaf, cafodd Iwan iechyd cymharol dda a pharhaodd y cyfeillgarwch.gyda Steffan
Pan ddirywiodd iechyd Iwan roedd na frys i ddod o hyd i rywun fyddai’n fodlon rhoi aren iddo. Gyda rhestrau aros am drawsblaniad yn 18 mis ar gyfartaledd, roedd y straen meddyliol a chorfforol yn amlwg ar Iwan wrth iddo siarad yn agored am ei obeithion a’i bryderon.
Pan ddatgelodd profion nad oedd unrhyw un o deulu Iwan yn addas fel rhoddwyr, camodd Steffan i mewn. Er nad oedd e yn ‘match’ chwaith, mae’n benderfynol o fod yn rhan o system cyfnewid organau er mwyn anrhydeddu ei addewid i’w ffrind.
“Digwyddodd y penderfyniad i helpu yn naturiol dros gyfnod o amser, wrth i mi sylweddoli bod iechyd Iwan yn gwaethygu” meddai Steffan.
“Dywedais wrth Iwan ar noson mas y byddwn yn helpu, dim problem. Nid oedd e’n fy nghredu yn syth gan ei fod yn siwr o fod wedi mynd trwy’r sgwrs yma trwy’r amser. Dim ond un aren sydd isie ife, felly beth am roi’r llall i rywun sydd ei angen? Os nad oes pobl fel fi yn fodlon neud e, does neb yn mynd i helpu.”
Mae Iwan yn disgwyl clywed yn ystod y dyddiau nesaf os yw ei cais i gyfnewid organau yn dod yn realiti ac mi fydd e wedi derbyn y newyddion – un ffordd neu’r llall – erbyn i raglen Aros am Aren cael ei darlledu ar nos Sul, 10 Tachwedd.
Mae Iwan a Steff wedi bod ar daith dyrys ac yn amlwg mae mwy o benderfyniadau anodd i ddod ond hefyd mae gobaith i Iwan, diolch i’r holl ddatblygiadau meddygol sy’n golygu fod trawsblaniad yn fwy posib i fwy o bobl.
Mae’n daith bersonol, anodd ac emosiynol ond mae’r cyfeillgarwch rhwng y ddau ffrind yn amlwg, a hiwmor y ddau yn llwyddo i oleuo sefyllfa dywyll.
Dywedodd Iwan: “Ers cal dialysis, mae mwy o bobl wedi dweud, o, mae o yn serious de. Gei di fy aren i. A dyma pam o ni eisiau gwneud y rhaglen, fel bod pawb yn gwybod ei fod yn bosib, mae angen organau. Plis, os allwch chi roi, rhowch.”
Mae Aros am Aren yn rhan o gyfres newydd DRYCH; cyfres o ddogfennau gafaelgar sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw.

Continue Reading

Community

Range of topics for safeguarding week

Avatar

Published

on

Hazardous co-sleeping with infants and adults who self-neglect are
among topics for discussion highlighted in National Safeguarding
Week in Mid and West Wales which runs from next Monday (4 th
November).

A wide-ranging programme is taking place throughout the week
across Pembrokeshire, Ceredigion, Carmarthenshire and Powys
including conferences, engagement events and workshops.

The programme has been co-ordinated by CWMPAS and CYSUR,
the Mid and West Wales Regional Safeguarding Board.

A highlight of the week is the Board’s annual conference at
Pembrokeshire College in Haverfordwest on Thursday, 14 th
November.


The keynote address is being delivered by Dr Eileen Munro, Emeritus
Professor of Social Policy at the London School of Economics.

Dr Munro is the author of the Munro Review of Child Protection – a
child-centred system which made a number of recommendations to
reform the child protection system from being over-bureaucratised to
one that keeps a focus on the child.

The conference will highlight key achievements across the region in
implementing the Signs of Safety approach to working with families.

Signs of Safety is a more inclusive, solution-focused approach which
encourages families to find their own solutions to the challenges they
may be experiencing.

During the week, the Safeguarding Board will also seek to raise
awareness of circumstances in which co-sleeping becomes unsafe,
as well as the dangers of self-neglect and hoarding.

Technology will also be a theme as the Board formally launches its
newly designed website and enhanced social media presence in
order to improve awareness of its work and functions.

The new All-Wales Protection Procedures is also due to launch while
Dyfed Powys Police will follow a comprehensive programme of
activities to engage schools and communities, focussing on a variety
of themes such as sexting, cyber-crime and exploitation.

Other events taking place in Pembrokeshire include the Junior
Safeguarding Conference during which secondary school pupils will
receive a safeguarding module devised by Pembrokeshire’s
Safeguardians. 

There will also be a County Lines workshop to be
facilitated by Fearless, a branch of Crimestoppers.

Carmarthenshire County Council will be facilitating consultation
with partner agencies to finalise the draft regional self-neglect policy.
Hywel Dda University Health Board will also hold a Learning Event
related to this theme as part of Safeguarding Week activities.

Events taking place across Powys include the formal launch of new
procedures relating to deprivation of liberty safeguards, as well as
training across Health Boards on a range of adult safeguarding issues
delivered jointly with Trading Standards and Police.

TESTUNAU AMRYWIOL AR GYFER YR WYTHNOS
DDIOGELU

Mae cyd-gysgu peryglus gyda babanod, ac oedolion sy’n hunan-
esgeuluso ymhlith testunau i’w trafod y tynnir sylw atynt yn yr
Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yng Nghanolbarth a Gorllewin
Cymru sy’n rhedeg o ddydd Llun nesaf (4 Tachwedd).

Mae rhaglen eang yn cael ei chynnal trwy gydol yr wythnos ledled Sir
Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys yn cynnwys
cynadleddau, digwyddiadau ymgysylltu a gweithdai.

Cydgysylltwyd y rhaglen gan CWMPAS a CYSUR, Bwrdd Diogelu
Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos yw cynhadledd flynyddol y Bwrdd yng
Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd ddydd Iau, 14 Tachwedd.

Cyflwynir y prif anerchiad gan Dr Eileen Munro, Athro Emeritws Polisi
Cymdeithasol yn Ysgol Economeg Llundain.

Dr Munro yw awdur Munro Review of Child Protection – a child-
centred system, a wnaeth nifer o argymhellion i ddiwygio’r system
amddiffyn plant o fod yn system or-fiwrocrataidd i un sy’n cynnal
ffocws ar y plentyn.

Bydd y gynhadledd yn tynnu sylw at y prif gyflawniadau ar draws y
rhanbarth o ran gweithredu’r ymagwedd Arwyddion Diogelwch wrth
weithio gyda theuluoedd.

Mae Arwyddion Diogelwch yn ymagwedd fwy cynhwysol, yn
canolbwyntio ar atebion, sy’n annog teuluoedd i ddod o hyd i’w
hatebion eu hunain i’r heriau y gallant fod yn eu hwynebu.

Yn ystod yr wythnos, bydd y Bwrdd Diogelu yn mynd ati hefyd i
gynyddu ymwybyddiaeth o amgylchiadau lle mae cyd-gysgu yn
anniogel, yn ogystal â pheryglon hunan-esgeuluso a chelcio.

Bydd technoleg yn thema hefyd wrth i’r Bwrdd lansio’i wefan yn ffurfiol
ar ei newydd gwedd, ynghyd â gwell presenoldeb yn y cyfryngau
cymdeithasol er mwyn gwella ymwybyddiaeth o’i waith a’i
swyddogaethau.

Bydd fersiwn newydd Gweithdrefnau Amddiffyn Cymru Gyfan yn cael
ei lansio hefyd, a bydd Heddlu Dyfed Powys yn dilyn rhaglen
gynhwysfawr o weithgareddau i ymgysylltu ag ysgolion a
chymunedau, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o themâu fel secstio,
seiberdroseddu a chamfanteisio.

Mae digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn Sir Benfro yn
cynnwys y Gynhadledd Diogelu Plant Iau lle bydd disgyblion ysgolion
uwchradd yn derbyn modiwl diogelu a ddyfeisiwyd gan Warchodwyr
Sir Benfro. 

Hefyd, bydd gweithdy Llinellau Cyffuriau yn cael ei gynnal
gan Fearless, sef cangen o Crimestoppers.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn hwyluso ymgynghoriad gydag
asiantaethau partner i roi’r wedd derfynol ar y polisi hunan-esgeuluso
rhanbarthol drafft. 

Hefyd, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn
cynnal Digwyddiad Dysgu yn gysylltiedig â’r thema hon fel rhan o
weithgareddau’r Wythnos Ddiogelu.

Mae digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Powys yn cynnwys
lansio gweithdrefnau newydd yn ffurfiol yn ymwneud â threfniadau
diogelu wrth amddifadu o ryddid, yn ogystal â hyfforddiant ar draws
Byrddau Iechyd ar amrywiaeth o faterion diogelu oedolion a gyflwynir
ar y cyd â Safonau Masnach a’r Heddlu.

Continue Reading

Cymraeg

Pleser o’r Mwyaf

Avatar

Published

on

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.

Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.

Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK