Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Drakeford yn datgelu cynlluniau cyllid llywodraeth leol

Avatar

Published

on

Mark Drakeford: Setliad sefydlog mewn cyfnod ansicr

Mark Drakeford: Setliad sefydlog mewn cyfnod ansicr

MAE’R YSGRIFENNYDD Llywodraeth Leol Mark Drakeford wedi cyhoeddi £4.107 biliwn o gyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn 2017- 18.

Bydd Llywodraeth Leol yn gweld cynnydd yn ei chyllid ar gyfer 2017-18 o £3.8 miliwn o’i gymharu ag 2016-17. Dyma’r cynnydd cyntaf yn y setliad ar gyfer llywodraeth leol ers 2013-14.

Mae’r setliad yn cynnwys £25 miliwn i gefnogi darparu gwasanaethau cymdeithasol cryf sy’n hanfodol i lwyddiant hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae’r arian ychwanegol hwn yn cydnabod y pwysau cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol.

Mae hefyd yn cymryd i ystyriaeth cytundeb Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru i roi £25 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol drwy’r setliad i gefnogi darparu gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â darparu £1 miliwn ar gyfer cludiant i’r ysgol a £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot i gefnogi parcio yng nghanol trefi.

Mae cyllid cyfalaf ar gyfer 2017- 18 yn dod i £442 miliwn, gyda chyllid Cyfalaf Cyffredinol 2017-18 £143 miliwn – swm sydd heb ei newid. Mae hyn yn golygu y bydd cynghorau yn gallu mynd ati i adeiladu ysgolion newydd, gwella ffyrdd lleol a darparu seilwaith hanfodol.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol hefyd heddiw gymaint o wybodaeth â phosibl am gynlluniau grant eraill Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2017-18. Mae hyn yn nodi swm pellach o £650 miliwn ar gyfer blaenoriaethau allweddol a fydd yn helpu’r awdurdodau lleol i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Elfen hanfodol arall ar y setliad dros dro yw’r cyllid ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Bydd cynnal yr arian yn £244 miliwn drwy gyfrwng y setliad yn sicrhau bod llywodraeth leol yn gallu parhau i ddarparu cymorth hanfodol i bron 300,000 o’n teuluoedd mwyaf agored i niwed.

Ac yntau’n cyhoeddi’r setliad dros dro, dywedodd Mark Drakeford: “Nod y setliad dros dro hwn yw rhoi sefydlogrwydd i awdurdodau lleol reoli’r penderfyniadau anodd sydd o’n blaenau.

“Rydym yn gwybod bod cynghorau yn darparu eu gwasanaethau yn erbyn cefndir o gyni ac mae’r setliad hwn yn fan cychwyn i gynllunio ar gyfer dewisiadau anos a fydd o’n blaenau.

“Mae’r newidiadau yr ydym yn eu rhoi ar waith eleni yn seiliedig ar gyngor grŵp arbenigol o blith yr awdurdodau lleol ac arbenigwyr annibynnol.

“Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys arian ychwanegol i roi cyllid gwaelodol o 0.5% ar waith sy’n cyfyngu ar yr effaith ar gynghorau a fyddai wedi gweld y gostyngiadau mwyaf yn eu cyllid craidd.

“O ganlyniad, hwn yw’r cynnydd arian parod cyntaf yn setliad llywodraeth leol ers 2013-14. O dan y cyllid gwaelodol, ni fydd rhaid i unrhyw gyngor ymdopi ar lai na 99.5% o’r arian a ddarparwyd iddynt y llynedd. O ychwanegu’r swm hwn at y ffynonellau eraill o incwm sydd ar gael iddynt, bydd llawer o gynghorau yn gallu cynyddu eu gwariant y flwyddyn nesaf.

“O fewn y setliad cyffredinol, bydd cynghorau hefyd yn cael £25 miliwn i gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol lleol cryf a’r pwysau cynyddol ar y gwasanaeth hwn.

“Mae hwn yn setliad sefydlog mewn cyfnod heriol ac fe fydd yn caniatáu i Lywodraeth Leol bennu cyllidebau cynaliadwy er gwaethaf cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus.”

Fodd bynnag, y Ceidwadwyr Cymreig yn gondemniol yn eu hymateb i’r setliad cyllid.

Dirprwy Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies AC, sy’n ymateb i gyhoeddiad cyllideb Llywodraeth Cymru, gan ddweud ei bod wedi methu â chyflawni i gymunedau ledled Cymru.

Dywedodd: “Mewn cyfweliad a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd arweinydd y cenedlaetholwyr, Leanne Wood fod Llafur yn ‘broblem’ i Gymru; ac eto, ddoe, roedd Plaid Cymru yn gwneud eu gorau glas i daro bargen gyllideb â Llafur – dyna beth yw rhagrith ar ei waethaf.

“Roedd cyhoeddiadau’r ddwy blaid i’r wasg yn honni bod y gyllideb yn llwyddiant mawr, ond doedd dim sôn am y toriad gwirioneddol mewn arian i gynghorau, sy’n golygu bod gwasanaethau lleol yn parhau i ddioddef a bod teuluoedd sy’n gweithio’n galed yn parhau i gael mwy o drafferth byw o ddydd i ddydd, gan orfod wynebu treth gyngor sy’n codi eisoes.

“Doed ddim sôn ‘chwaith am y toriad o 4.8% yn y portffolio amgylchedd a materion gwledig – yr un sydd fwyaf ar ei golled yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, mae’r gyllideb wedi dangos, mewn du a gwyn, sut mae Llafur a Plaid yn parhau i droi eu cefn ar gefn gwlad Cymru.

“Cafwyd mwy o sbin gan Ysgrifennydd y Cabinet a honnodd fod cyllideb Llywodraeth Cymru’n parhau i gael ei thorri. Y gwirionedd yw y bydd dyraniad Llywodraeth Cymru yn cynyddu £370 miliwn dros y pedair blynedd nesaf – ffaith sydd wedi’i chadarnhau gan Lywodraeth y DU.

“Serch hynny, rwy’n gobeithio’n arw y bydd y gyllideb hon yn cyflawni i gymunedau Cymru lle mae cymaint o rai eraill yn y gorffennol wedi methu gwneud hynny. Wrth symud ymlaen, mae’n hanfodol bod pob punt sy’n cael ei gwario gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gwario’n effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru a ffocws o’r newydd ar ganlyniadau.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Amser i gau’r bwlch ar Gymraeg yn sefydliadau

Avatar

Published

on

ER BOD sefydliadau cyhoeddus wedi perfformio yn well wrth gynnig gwasanaethau Cymraeg yn ystod 2019-20, mae ‘na le i rai sefydliadau wella eto yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts.

Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos hon sydd yn adrodd ar berfformiad sefydliadau cyhoeddus wrth iddynt ymdrin â’r Gymraeg. Mae’r adroddiad yn dangos bod perfformiad wedi gwella ar y rhan fwyaf o wasanaethau eto yn 2019- 2020 ond bod rhai agweddau sydd yn parhau i beri pryder i’r Comisiynydd.

Dywedodd: “Mae yna risg fod bwlch yn tyfu rhwng y sefydliadau sydd yn perfformio’n dda a’r rhai sydd ddim cystal, ac mae angen i bob sefydliad gymryd eu cyfrifoldebau o ddifri.

“A hithau yn bedair blynedd ers i’r sefydliadau cyntaf ddod o dan safonau’r Gymraeg, mi fyddwn yn disgwyl i bob sefydliad gwrdd â’r gofynion bob tro.

“Mae yna rai sefydliadau sy’n perfformio yn dda iawn, ond gydag eraill, mae gwasanaethau allweddol, megis ffôn a derbynfa, yn perfformio’n wael a heb gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma’r gwasanaethau lle mae angen buddsoddi mewn staff.”

Roedd yr adroddiad yn dangos fod 92% o lythyrau neu e-bost Cymraeg wedi derbyn ateb yn Gymraeg, fod opsiynau awtomatig dros y ffon ar gael yn Gymraeg 90% o’r amser a bod ffurflenni ar gael yn gyflawn yn Gymraeg 78% o’r amser.

Ond, dim ond mewn 46% o ymweliadau derbynfa y cafwyd gwasanaeth Cymraeg, a dim ond 55% o alwadau ffôn y llwyddodd sefydliadau i ddelio gyda hwy yn Gymraeg a rhoi ateb cyflawn yn Gymraeg.

Ychwanegodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, “Mi ddylai pob sefydliad fod yn ystyried pethau fel sefydlu tîm neu benodi swyddog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, cynyddu faint o staff sy’n gallu siarad Cymraeg a chynnig gwasanaethau Cymraeg mewn ffordd sy’n golygu mai defnyddio’r Gymraeg yw’r opsiwn mwyaf naturiol. Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft cyfarfodydd sensitif ynghylch llesiant, dw i eisiau i sefydliadau ystyried cynnig gwasanaeth Cymraeg yn ddiofyn.

“Dw i eisiau gallu cymryd yn ganiataol fod gwasanaethau sylfaenol ar gael yn Gymraeg bob tro. Mi allwn ni wedyn ganolbwyntio ar ddyletswyddau eraill sy’n gwneud gwahaniaeth ar lefel strategol. Pethau megis penderfyniadau polisi, gan sicrhau bod sefydliadau yn ystyried effaith pob penderfyniad ar y Gymraeg, a gweithredu strategaethau 5 mlynedd cryf i hybu’r Gymraeg.”

Bydd y Comisiynydd nawr yn cyfarfod gyda’r sefydliadau yn unigol i drafod y canlyniadau a’r diffygion, a beth sydd angen digwydd er mwyn datrys a cheisio cau’r bwlch rhwng sefydliadau sy’n cydymffurfio yn dda a’r rhai sydd ddim cystal.

Continue Reading

Cymraeg

Y gorffennol yn dod yn fyw drwy hen ffilmiau

Avatar

Published

on

“MAE hen lun yn medru dweud llawer, ond mae hen ffilm yn medru dod â’r gorffennol yn fyw” meddai’r Prifardd ac Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

Bob wythnos ar Ffilmiau Ddoe, mae criw hwyliog o gyflwynwyr a gwestai neu gyfwelai yn gwylio detholiad o’r ffilmiau sy’n rhan o gasgliad Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Detholiad o ffilmiau sy’n cofnodi digwyddiadau cymdeithasol, ffilmiau personol am deuluoedd, a thystiolaeth weledol o sut mae Cymru wedi newid dros y blynyddoedd. Yr wythnos hon, Myrddin ap Dafydd fydd yn cael y fraint o dyrchu yn y casgliad rhyfeddol hwn, a hynny yng nghwmni ei westeion Peredur Lynch a Beryl Vaughan.

Bydd Peredur Lynch, un o draethwyr huawdl y Babell Lên, yn cymryd golwg ar ffilmiau o Eisteddfodau Cenedlaethol ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys clip o’r Brifwyl yn Aberystwyth yn 1916, ffilm ryfeddol o Eisteddfod Machynlleth yn 1937, cofnod yr artist Charles Tunnicliffe o seremoni cyhoeddi Pwllheli 1954, a chlipiau o enwogion ar y Maes yn Y Drenewydd yn 1965.

“Da’ch chi’n gweld pobl yn rhythu ar gamera sy’n troi o’u blaenau, ac weithiau dan ni’n teimlo nad ydi pawb yn siŵr iawn sut mae ymddwyn o flaen y lens” sylwa Myrddin, wrth wylio clip o Eisteddfod Y Drenewydd 1965.

Bywyd cefn gwlad fydd yn mynd â bryd Beryl Vaughan, a chawn ymweld â Ffair Dalis 1914, sef ffair geffylau enwog Llanbedr Pont Steffan, diwrnod cneifio yn Y Foel, golygfeydd ardal Penderyn a Bannau Brycheiniog, a Choleg Hyfforddi Felinfach.

“Mae rhyw hud a hiraeth mewn gweld ein gorffennol yn dod yn fyw o flaen ein llygaid” meddai Myrddin. “Mae’n rhoi cyfle i ni fynd yn ôl yno, wel am sbel fach beth bynnag. Diolch bod ganddon ni drysorfa o archif yma yng Nghymru, a rheiny’n cael eu gwarchod a’u rhannu.”

Continue Reading

Cymraeg

Dogfen DRYCH ar restr fer Gwobrau Grierson 2020

Avatar

Published

on

MAE S4C a Chwmni Da yn falch o gyhoeddi bod dogfen Eirlys, Dementia a Tim ar restr fer Gwobrau Grierson 2020.
Y Gwobrau Grierson, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel The British Documentary Awards, yw digwyddiad mwyaf yng nghalendr dogfennau yn y DU. Mae’r gwobrau yn adnabod ac yn dathlu dogfennau sy’n profi safon, creadigrwydd, gwreiddioldeb a rhagoriaeth.
Mae’r ddogfen, a gafodd ei chynhyrchu gan Gwmni Da ar gyfer cyfres DRYCH S4C – cyfres o ddogfennau gafaelgar sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw – wedi ei henwebu yng nghategori ‘Dogfen Sengl Orau – Cartref’.
Mae Eirlys, Dementia a Tim, rhaglen a gafodd ei ddarlledu’n wreiddiol ym mis Ionawr 2020, yn adrodd stori dau hen ffrind sy’n cwrdd unwaith eto ar ôl dilyn llwybrau go wahanol yn eu bywyd. Mae’r ddogfen yn rhoi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gyda Alzheimer’s ac yn dosbarthu neges bwerus gan Eirlys, i beidio bod ofn.
Meddai’r Cynhyrchydd, Sion Aaron: “Rwy’n hynod o falch bod ein dogfen wedi cael ei henwebu. Mae gan Tim Lynn ac Eirlys Smith stori arbennig iawn i’w ddweud, sy’n wefreiddiol ac ar brydiau yn ddigrif. Mae dementia yn cyffwrdd gymaint o fywydau ac rydym ni wedi trio ein gorau i bortreadu’r realiti sy’n wynebu pobl fel Eirlys sy’n byw gydag Alzheimer’s cynnar.”
Meddai Dylan Huws, Uwch Gynhyrchydd y rhaglen: “Mae’r Gwobrau Grierson yn wobrau mawreddog ac mae hi’n fraint bod ymysg yr enwau mawr ar y rhestr. Mae hyn yn dangos ein bod ni’n gallu cynhyrchu straeon heriol ac atyniadol yn y Gymraeg sy’n sefyll ymysg y gorau yn y byd.”
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C: “Weithiau, mae ‘na gomisiwn sy’n wirioneddol yn cyffwrdd y galon. Mae Eirlys, Dementia a Tim yn enghraifft wych o hynny. Dyma raglen ddogfen a lwyddodd i roi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gydag Alzheimers gan gyfleu neges bwerus a phositif i beidio bod ofn. Dwi’n hynod falch fod y ffilm hon wedi ei henwebu ac yn cael ei gweld ochr yn ochr gyda dogfennau mwyaf pwerus y DU. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm i gyd.”
Gyda holl ddarlledwyr y DU yn gallu cystadlu, Eirlys, Dementia a Tim yw unig gynrychiolydd Cymru yng Ngwobrau Grierson.
Mi fydd y noson wobrwyo ar y 10fed o Dachwedd 2020 yng Nghanolfan Southbank, Llundain.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK