Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Llenyddiaeth Cymru yn ymladd yn ôl

Avatar

Published

on

Medwin Hughes: Mae wedi cael ei feirniadu

BEIRNIADWYD Llywodraeth Cymru adroddiad sy’n edrych ar y cymorth a roddir i gyhoeddi yng Nghymru.

Comisiynwyd yr adolygiad eang ei gwmpas gan Ken Skates ym mis Medi 2015 a’i gadeirio gan yr Athro Medwin Hughes i ystyried prif amcanion Llywodraeth Cymru wrth gefnogi cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru ac i ystyried a oedd yr amcanion hynny’n parhau’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Ystyriwyd hefyd y gefnogaeth gyfredol ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, y berthynas rhwng y cyrff sy’n gyfrifol am roi’r gefnogaeth, effaith datblygiadau digidol ar y diwydiant cyhoeddi a threfniadau gweinyddol cefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaeth newyddion Cymraeg ar-lein.

Gan siarad yn y Senedd, croesawodd Ysgrifennydd yr Economi gyfraniad y cyrff partner a’r cyhoedd i’r adolygiad a dywedodd ei fod yn dangos y pwysigrwydd a roddir i draddodiad llenyddol cyfoethog Cymru a’i diwydiant cyhoeddi byrlymus.

Dywedodd Ken Skates: “Mae adroddiad yr adolygiad o gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru wedi cyrraedd. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth a roddwyd gan gyrff partner, y diwydiant a’r cyhoedd.

“Mae’r panel yn cydnabod y myrdd arferion da a’r gefnogaeth effeithiol i gyhoeddi a llenyddiaeth y dylid eu cadw a’u datblygu at y dyfodol.

“Mae’n enwi’r meysydd lle mae angen i’r gefnogaeth esblygu i ddiwallu anghenion yr oes ddigidol a chafwyd hefyd dystiolaeth glir bod yna broblemau go iawn mewn rhai meysydd, o ran cynllunio strategol, pennu blaenoriaethau, llywodraethiant, rheoli risg, gwariant a sicrhau bod gweithgareddau’n llwydo i gyflawni’r canlyniadau sydd eu hangen arnom.

“Mae’r adroddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn cynnig cyfres o argymhellion. Mae rhai ohonyn nhw ar gyfer Llywodraeth Cymru, a rhai eraill ar gyfer y diwydiant a’r prif gyrff cyflawni.

“O ystyried cryfder a grym y dystiolaeth a ddaeth i law, rwy’n bwriadu derbyn y prif argymhellion a bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn gweithio gyda’r cyrff perthnasol i’w rhoi ar waith.”

Yn ei adroddiad, mae’r panel yn cynnig dadl gref bod Llywodraeth Cymru’n parhau i roi cefnogaeth ariannol briodol i draddodiad llenyddol dwyieithog Cymru er mwyn iddo allu parhau i ffynnu yn y 21ain ganrif, i sicrhau ei effaith ryngwladol ac i helpu pobl ledled Cymru i’w fwynhau a chymryd rhan ynddo.

Mae’n dadlau dros ddiwydiant cyhoeddi cryf ac arloesol sy’n cynnal swyddi o ansawdd uchel, sy’n cystadlu ar y llwyfan ryngwladol ac sy’n caniatáu i lenorion proffesiynol o bob cefndir i ddatblygu gyrfa yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion y bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb yn ffurfiol iddynt maes o law.

Un o’r rheini yw y dylai Llywodraeth Cymru geisio cytundeb gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ysgwyddo rhai o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn (er mwyn cynyddu ei impact masnachol), bwrsariaethau, gwyliau llenyddol a Llenorion ar Daith a’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: “Mae rhai o’r newidiadau sy’n cael eu hargymell yn fawr ond maen nhw’n ymateb i anghenion penodol mewn maes penodol. Nid ydynt yn fesur mewn unrhyw ffordd o waith da ehangach y Cyngor Celfyddydau na Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys y ffordd wych y maen nhw’n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mawr sy’n gysylltiedig â’n blynyddoedd thematig. Bydd y rheini’n parhau heb eu newid.

“Rwyf wedi cael fy argyhoeddi bod angen cymryd y camau hyn i greu fframwaith o gymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth sy’n fwy effeithiol ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Adroddiad Fodd bynnag, bu beirniadu ar gyfer diffyg amhleidioldeb a diffyg arbenigedd ymhlith aelodaeth y Pwyllgor.

Cadeirydd y Pwyllgor, yr Athro Medwin Hughes yn ar y Bwrdd o wasg Prifysgol Cymru. Honnir y golygai ei safbwynt ar y wasg Prifysgol Cymru nad oedd achos o wrthdaro buddiannau yn ei rôl ar y Pwyllgor. Tra roedd Llywodraeth Cymru wedi ceisio osgoi’r broblem honno drwy eithrio cyhoeddi academaidd o gylch gwaith y Pwyllgor, yn absenoldeb cyhoeddwr unig academaidd Cymru o’r adolygiad ystyrir mor anghyson.

Mae’r panel hefyd drwy gamgymeriad yn cyfuno grantiau ymlaen llaw awdur y Cyngor Llyfrau â bwrsariaethau llenyddiaeth Cymru.

Nid oes unrhyw ariannu dwbl, fel yr honna’r adroddiad.

Cafodd Llenyddiaeth Cymru gyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion i godi pryderon difrifol ynghylch yr Adolygiad i Gyhoeddi a Llenyddiaeth. Ymhlith rhain, mae pryderon ynghylch y dystiolaeth a gynhigiwyd yn yr adolygiad a’i berthynas â’r argymhellion.

Dywedodd Datganiad gan Llenyddiaeth Cymru: ‘Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod wedi cynnal, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, nifer o brosiectau sylweddol sydd wedi ehangu’r cyswllt â llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau. Mae’r rhain yn cynnwys: Menter Datblygu Llenyddiaeth De Cymru, prosiectau cymunedol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Roald Dahl 100 Cymru, Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru, Awdur Ieuenctid Cymru, Y Lolfa Lên, Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, Her 100 Cerdd, a datblygiadau newydd mewn twristiaeth lenyddol.

‘Gan weithio’n agos ag ystod eang o awduron ac unigolion sy’n gweithio ym maes llenyddiaeth, mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymedig i sbarduno a dathlu rhagoriaeth lenyddol, ymestyn y diffiniad o lenyddiaeth, ei ddemocrateiddio ac ehangu ei gyrhaeddiad.

‘Mae Llenyddiaeth Cymru yn rhan o drafodaethau parhaus â’r rhanddeiliaid allweddol er mwyn datblygu strategaethau a fydd yn fuddiol i’r sector drwyddi draw’.

Continue Reading

Cymraeg

Dathlu arwyr arbennig Cymru yng nghyfnod Covid

Avatar

Published

on

FE FYDD 2020 yn aros yn hir iawn yn y cof fel blwyddyn na welsom ni erioed mo’i thebyg. Dyma flwyddyn y Pandemig – ac wrth i ni agosáu at y Nadolig a ffarwelio â’r flwyddyn mae’n bwysicach nag erioed inni gydnabod dewrder ein pobol a’n cymunedau.

Bydd rhaglen arbennig  sef Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 ar S4C ar nos Wener, 18 Rhagfyr yn dathlu a dweud diolch wrth sawl grŵp a sawl unigolyn am eu gwaith hynod yn ystod  pandemig Covid-19 gan dalu teyrnged i arwyr tawel y cyfnod clo.

O ofalwyr mewn cartrefi gofal, i’r rheiny fu’n ateb y galw ac yn gwnïo PPEs am oriau maith, i’r rheiny gasglodd arian i goffrau sawl bwrdd iechyd, ac i’r rheiny gollodd anwyliaid – mae pawb â’u straeon a phob stori yn werth ei chlywed.

Yng nghwmni Elin Fflur ac Owain Tudur Jones fe fyddwn ni’n dweud diolch trwy gyflwyno tlws gan y gof, Ann Catrin, i’n harwyr ar ran S4C a Chymru gyfan. Mae Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 yn addo deffro’r holl emosiynau – fe fydd y dagrau, y gwenu a’r chwerthin law yn llaw – ond, yr hyn fydd yn aros yn y cof fydd y ‘dewrder’.

Fe fydd sawl wyneb enwog yn ymuno â’r ddalthu gan gynnwys Michael Sheen, Cerys Matthews, Ben Cabango a Geraint Thomas.

Yn ystod rhaglen awr o hyd byddwn yn  clywed straeon 10 mudiad ac unigolion o bob oedran, dros Gymru gyfan gan gynnwys Rhythwyn Evans o Silian, Ceredigion, Banc Bwyd Cwmaman a Joseff, 10 oed o Gaerdydd.

Cafodd Rhythwyn ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore ac fe ddathlodd ei ben-blwydd yn 91 oed trwy gerdded o amgylch ei dŷ 91 o weithiau a chodi £50,000 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Meddai Rhythwyn yn ystod y rhaglen: “O’n i wedi gweld beth wnaeth Capten Tom ei gyflawni ac o’n i’n meddwl, i raddau, gallwn i wneud rhywbeth tebyg.”

Y Capten Tom Moore wnaeth ysbrydoli Joseff hefyd i osod yr her o gerdded 100 milltir ym mis Mehefin a chodi £2,000. “Penderfynais i ar yr elusen Arch Noah (Ysbyty Plant Cymru) oherwydd roedd fy mrawd Steffan yn sâl iawn a phan dw i’n mynd lawr i’r clinig rydw i’n gweld y doctoriaid a’r nyrsys yn gweithio yn galed iawn.”

Meddai Rhian, mam Joseff a Steffan: “Da ni’n mor ddiolchgar i’r staff. Doedd dim byd yn ormod iddyn nhw. O’n nhw’n rhoi pob darn o’u hegni mewn i’w gofal. Nid yn unig i Steffan, ond i bob plentyn oedd yna. A da ni’n gwybod roedd e’n cael y gofal gorau galle fe.”

Mae Banc Bwyd Cwmaman – un o’r mudiadau sy’n cael clod yn ystod y rhaglen Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 – wedi helpu dros 2,000 o bobl yn ystod y pandemig Covid-19.

Un o’r rheiny yw Sarah Davies a’i theulu sy’n cynnwys pump o blant. Meddai Sarah: “Mae 2020 wedi bod yn anodd iawn. Ar ddechrau’r lockdown dim ond un cyflog oedd yn dod mewn achos roedd rhaid i fi orffen gwaith. Roedd e’n jysd ‘ o le mae’r bwyd yn mynd i ddod’, ‘o ble mae’r arian yn mynd i ddod i dalu am yr holl filiau a rhent’?”

Ond diolch i Fanc Bwyd Cwmaman fe ddaeth Sarah a’i theulu trwy gyfnod anodd iawn. “Wnaethon’ nhw rhoi popeth i ni – o’n i mor relieved achos roedd rhywun mas ‘na yn helpu pobol. Mae ‘na lawer o deuluoedd sydd yn stryglan – maen nhw’n gweithio ond sdim lot o arian yn dod mewn,” meddai Sarah.

Ymysg eraill sydd yn cael eu hanrhydeddu mae Catrin ‘Toffoc’ Jones am ei gwaith hi gyda Côr-ona a Jessica, 10 oed o ardal Deiniolen am ysgrifennu llythyrau i henoed yr ardal er mwyn iddyn nhw beidio teimlo’n unig.

Yn goron ar y cyfan ac yn ddiweddglo perffaith i’n rhaglen fe fydd Elin Fflur yn canu cân newydd sbon fydd yn anrhydeddu ein harwyr, cân fydd yn rhoi’r flwyddyn a’n straeon anhygoel ar gof a chadw.

Continue Reading

Cymraeg

Prosiectau a gymorthir gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Avatar

Published

on

BYDD pedwar prosiect cymunedol sy’n ceisio lleihau allyriadau carbon ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn cael cymorth gwerth dros £39,000 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cytunodd Pwyllgor Cronfa’r Awdurdod i gefnogi ceisiadau gan Theatr Gwaun, Neuadd Bentref Marloes a Sain Ffraid, Mencap Sir Benfro Cyf. ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa, y Cynghorydd Mike James: “Roeddem wrth ein bodd o weld cymaint o amrywiaeth yn y ceisiadau a ddaeth i law gan eu bod yn dangos y ffyrdd arloesol y mae cymunedau yn y Parc Cenedlaethol yn chwarae eu rhan i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

“Byddem yn annog unrhyw fudiad neu grŵp a gaiff ei arwain gan y gymuned sydd angen cymorth i ariannu prosiectau a fydd yn helpu i leihau carbon a/neu ymateb i newid yn yr hinsawdd, i wneud cais cyn gynted â phosib.”
Bydd Theatr Gwaun yn defnyddio’r cyllid i osod paneli solar fel rhan o’i gwaith i leihau faint o ynni a ddefnyddir yn y theatr, sinema a lleoliad digwyddiadau.

Bydd y cyllid a roddir i Neuadd Gymunedol Marloes a Sain Ffraid yn cyfrannu at brynu a gosod System Fatris i ategu system ffotofoltäig (PV) newydd, gan alluogi’r neuadd i storio unrhyw gyflenwad pŵer ac, yn ei thro, leihau costau rhedeg a lleihau ôl troed carbon y gymuned.

Rhoddwyd cymorth ariannol i Mencap Sir Benfro Cyf. er mwyn cyfrannu at bedwar maes o fesurau effeithlonrwydd ynni yng Ngerddi Ystagbwll, Sir Benfro yn cynnwys pibellau i gysylltu tanc casglu dŵr glaw â phwll, gwella insiwleiddio o amgylch pibellau dŵr poeth ac uned ynni solar ar gyfer gorsaf olchi.

Bydd cyllid Cronfa Datblygu Cynaliadwy Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cyfrannu at wella systemau dŵr a phaneli solar ac uwchraddio systemau ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm.

Ychwanegodd Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a Môr Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: “Rydyn ni wedi nodi sawl maes lle gallem leihau ein hallyriadau carbon ac arbed arian, er mwyn gallu ei wario’n well ar ein gwaith cadwraeth hanfodol.

“Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ddod â hanfodion bywyd bob dydd i Sgomer a Sgogwm, gan ddiweddaru systemau solar presennol i gymeradwyo effeithlonrwydd a gosod hidlyddion UV i wneud dŵr ffynnon yr ynys yn ddiogel i’w yfed.”

“Bydd y ddwy ynys yn gallu yfed eu dŵr ffynnon heb orfod ei ferwi’n gyntaf ac mae wardeiniaid a gwirfoddolwyr Sgogwm yn edrych ymlaen yn arw at y posibilrwydd o gael cawod boeth y tymor nesaf.”

Yn ogystal â’r pedwar prosiect llwyddiannus, gohiriwyd dau gais er mwyn cyflwyno rhagor o wybodaeth i’r pwyllgor ac roedd un yn aflwyddiannus.

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 hanner dydd, ddydd Llun 14 Rhagfyr 2020.

Continue Reading

Cymraeg

Nyrsys – angylion ac arwyr Covid-19

Avatar

Published

on

DROS y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ffordd y mae’r byd yn gweld nyrsys a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru wedi newid wrth i bandemig Covid-19 fwrw Cymru.
Mae nyrsys wedi bod yna i ni erioed – yr angylion tawel sy’n gofalu amdanom ni trwy gydol ein hoes. Yn ystod 2020, maen nhw wedi esblygu i fod yn arwyr go iawn gyda phobl yn dod allan o’u tai yn wythnosol i ddathlu a chlodfori’r dynion a’r merched ymroddedig a dewr yma.
Mae Nyrsys – cyfres newydd sy’n dechrau ar S4C ar Nos Fercher, 25 Tachwedd – yn mynd â ni at lygad y ffynnon trwy ddilyn gwaith nyrsys cymunedol Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng ngorllewin Cymru drwy gyfnod y pandemig. 
Mae nyrsys y gymuned yn gofalu am y cleifion mwyaf bregus yn eu cartrefi. Yn ystod blwyddyn unigryw, mae’r pwysau ar nyrsys cymunedol gorllewin Cymru yn fwy nag erioed o’r blaen. 
Yn y rhaglen gyntaf, byddwn yn dilyn Elen Lewis, nyrs yn ardal Aberteifi, sydd wedi cael profiad personol o effaith Covid-19. Fe gollodd Elen ei modryb, Undeg, ym mis Ebrill ac roedd y golled yn sioc i’r teulu cyfan. 
Meddai Elen: “Ar ddechre mis Ebrill, o ni yn gwybod ei bod hi yn sâl gartre – a doedd hi ddim yn gwella. Nath y doctor hala hi mewn i Ysbyty Glangwili, a gath hi ei hala bron yn syth wedyn i’r uned gofal dwys lan fan ‘na. Ond yn anffodus, ddath hi byth gartre.  
“Ar ôl iddi fynd mewn i’r ysbyty, achos y lockdown oedd neb yn gallu mynd mewn i weld hi.  Roedd ei gŵr, Tudur, wedyn ‘di gorfod dod gartre a chael galwad ffôn wedyn i ddweud bod hi wedi mynd. A fi jyst yn meddwl shwt oedd e’n teimlo ddim yn gallu bod yna, ddim yn gallu mynd lan i ddala ei llaw hi, oedd e jyst yn greulon colli rhywun y ffordd ‘na.”
“Y gwir yw sdim neb yn saff wrth y feirws ‘ma. Ma fe dal yma. Diogelu cleifion, diogelu ein hunain, wel ‘na gyd y’ ni yn gallu neud.”
Mae Siân Williams, nyrs yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin yn cytuno. “Ni ‘di cael haf eitha’ gwael gyda Covid, fel nyrsys. Mae ‘di bod yn rili anodd treial addasu i weithio’n wahanol,  treial neud y penderfyniadau sydd yn iawn i’r cleifion, neud siŵr bod nhw’n saff, neud siŵr bod ni’n saff…” 
Yn ystod y rhaglen gyntaf cawn weld cymaint y mae cleifion yn dibynnu ar y nyrsys cymunedol nid yn unig i ddarparu gofal ond fel cwmni hefyd.
Gan fod cleifion yn fwy caeth na’r arfer i’w cartrefi yn y cyfnod clo, mae ‘na groeso mawr i Elen ar ambell aelwyd gan gynnwys Molly James sydd yn ei 90au ac yn dioddef gyda chlwyf poenus ar ei choes.
Mae Elen hefyd yn mynd i drin Bernadette Dolan sy’n gwella ar ôl cael pum llawdriniaeth ar ei choes yn dilyn cwymp fis Rhagfyr diwethaf. Fe gafodd blatiau metel wedi’u gosod yn ei choes ond fe wnaeth ei chorff eu gwrthod felly bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth i dynnu’r cyfan allan ym mis Mehefin yn ystod y Clo Mawr.
Draw i Cross Hands, Sir Caerfyrddin ac rydym yn dilyn y nyrs Siân Williams wrth iddi hi ymweld â George, dyn ifanc 18 oed â spina bifida. Roedd George i fod i gael llawdriniaeth ar ei goluddyn fyddai’n sicrhau ei fod yn gallu byw yn fwy annibynnol, ond mae hynny wedi cael ei ohirio yn sgil Covid-19, felly bydd rhaid iddo aros tan y flwyddyn nesaf.  
Yn y rhaglen hon hefyd, fe fyddwn yn gweld sut mae Siân yn ymateb i achos brys. Mae’r tîm yn cael galwad bod gwraig wedi cwympo ar lawr yn ei chartref ac wedi bod yno dros nos. Cawn weld y cyffro i gyd yn y ganolfan iechyd ac ar leoliad wrth iddyn nhw alw’r gwasanaethau brys i agor y drws a mynd â’r wraig i’r ysbyty. 
Yn yr ail raglen yn y gyfres, byddwn yn cwrdd â Teleri Gwyther sy’n gweithio fel Nyrs Methiant y Galon yng Ngheredigion. Mae ganddi bron 40 mlynedd o brofiad yn gweithio fel nyrs. Fe fydd yn ymweld â Trevor Peregrine, gafodd ddwy stent wedi’i osod yn ei galon yn ddiweddar, ond er hynny, mae’n ŵr ffit ac iach yn ei 90au sydd wedi teithio’r byd yn ystod ei fywyd.  
Byddwn hefyd yn dilyn Lowri Davies, nyrs ifanc, ar ei diwrnod cyntaf o drin cleifion ar ei phen ei hun. Fe glywn am ei theimladau a’i nerfusrwydd o orfod mynd i mewn i gartrefi cleifion a gwneud penderfyniadau yn y fan a’r lle.  

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK