Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

CBDC cefnogi’r newidiadau Reolau

Avatar

Published

on

MAE NEWIDIADAU pellgyrhaeddol a sylweddol i Reolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi’u cymeradwyo gan aelodau’r Gymdeithas. Bydd y newidiadau i’r rheolau, a ddaeth yn sgil argymhellion gan Gyngor CBDC i ddiwygio ei strwythurau Llywodraethu, yn moderneiddio ac yn symleiddio’r ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud ar faterion pwysig ar draws pêl-droed yng Nghymru.

Ddydd Iau 29 Ionawr, yn y ‘Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar gyfer Ystyried Rheolau CBDC’ roedd cefnogaeth frwd gan Aelodau CBDC o blaid y newidiadau arfaethedig i Reolau CBDC. Mae’r newidiadau hanesyddol hyn yn ymwneud â strwythur llywodraethu CBDC yn ogystal â gweithredu’r system rheoli pêl-droed newydd arloesol, ‘COMET’.

Mae’r strwythur llywodraethu a gweithredu system ‘COMET’ yn rhan arwyddocaol o ‘Raglen Foderneiddio’ CBDC. Bydd yn datblygu strwythur pêl-droed yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol, ac yn alinio CBDC yn fwy effeithiol â FIFA, UEFA a disgwyliadau eraill rhanddeiliaid.

Mae’r newidiadau nodedig i’r broses lywodraethu a Rheolau CBDC yn cynnwys:

• Cyflwyno Bwrdd o Gyfarwyddwyr, a fydd yn canolbwyntio’n fanwl ar arwain y Gymdeithas yn gorfforaethol ac o ran busnes.

• Bydd Cyngor CBDC yn parhau i fod yn gyfranddalwyr ac yn gorff goruchaf (supreme) CBDC a chynrychiolwyr Clybiau sy’n Aelod o CBDC gan ganolbwyntio’n fanwl ar arwain y gêm.

• Bydd hyd tymor aelodau Cyngor CBDC yn ymestyn o 3 i 4 blynedd yn unol ag UEFA a FIFA, a hynny o 1 Awst 2019.

• Bydd tymor y Llywydd a’r Is-lywydd yn cael ei ymestyn i (ddim mwy na) 2 dymor o 4 blynedd er mwyn rhoi’r cyfle a’r amser i gwblhau a chyflawni prosiectau allweddol.

Meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, “Mae CBDC yn hynod falch o gael cefnogaeth yr Aelodau i ddatblygu pêl-droed yng Nghymru ar draws pob lefel. Rydw i wrth fy modd bod CBDC, ei Chyngor a’i Haelodau yn rhoi’r datblygiadau a’r newidiadau cadarnhaol a blaengar hyn ar waith ar draws pêl-droed yng Nghymru er mwyn datblygu a buddsoddi yn ein gêm ymhellach”.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Eisteddfod Llangollen yn Lansio Rhaglen 2020

Avatar

Published

on

MAE Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi ei raglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020), ac mae tocynnau nawr ar werth.
Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y 74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd, cyn dod i ben llanw gyda gwobr fawreddog Côr y Byd.


Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry, “Rydym yn falch iawn o lansio ein rhaglen o ragoriaeth gerddorol ac amrywiaeth rhyngwladol. Mae’n nod cyson gennym i ddod ag artistiaid cerddorol a dawns gorau’r byd ynghyd yma yng Nghymru, i berfformio yn ysbryd cyfeillgarwch.


“Mae’r digwyddiadau dyddiol yn adlewyrchu ein gweledigaeth o hybu heddwch trwy gerddoriaeth ac mae’r cyngherddau nos yn cynnig rhywbeth i bawb.”


Agorir rhaglen cyngherddau 2020 ddydd Mawrth 7fed Gorffennaf gyda dau o fawrion y byd canu clasurol, Aled Jones a Russell Watson. Ar nos Fercher 8fed Gorffennaf fe fydd Fusion, gydag ymddangosiad gan y Manchester Collective a’u sioe Sirocco, yn cynnig noson unigryw gyda naws yr Eisteddfod Ryngwladol yn ei hanfod wrth i elfennau cerddorol o ddiwylliannau gwahanol eistedd ochr yn ochr. Fe fydd brenhines ‘Soul’ Prydain, Beverley Knight, yn perfformio yn Llangollen am y tro cyntaf ar y nos Wener lle disgwylir sioe fyrlymus. Yr enillwyr gwobrau BRIT, James Morrison a Will Young, fydd ar frig lein-yp Llanfest 2020, mewn diweddglo gwych arall i wythnos yr Eisteddfod.


Croesawir dros 4,000 o berfformwyr i’r ŵyl flynyddol dros wythnos yr Eisteddfod, sy’n ddathliad cywrain o gerddoriaeth, diwylliant, creadigrwydd a chydweithio rhyngwladol. Mae’n hwb allweddol i dwristiaeth ddiwylliannol Gogledd Cymru gan ddenu dros 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Continue Reading

Cymraeg

Straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru

Avatar

Published

on

O GALEDI’r tloty i foethusrwydd tŷ bonedd, bydd cyfres newydd sbon ar S4C yn agor y drws ar straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru.


Bydd Waliau’n Siarad yn dathlu hanes a phensaernïaeth ein gwlad drwy straeon y bobl fu’n byw neu’n gweithio mewn chwe adeilad arbennig.
Bob wythnos, bydd y cyflwynwyr Aled Hughes a Sara Huws yn cael rhwydd hynt i grwydro coridorau a chorneli un adeilad penodol.


Ffermdy hynafol yng Ngheredigion gyda chysylltiadau ag oes y tywysogion, yr abatai a’r Greal Sanctaidd gaiff eu sylw yn y rhaglen gyntaf am 8yh nos Sul 12 Ionawr 2020.


Bydd Aled a Sara yn holi pam, sut a phryd y cafodd Mynachlog Fawr ei godi drws nesa at abaty eiconig Ystrad Fflur ger Tregaron.


Maen nhw’n sgwrsio gyda Charles Arch a’i chwaer Beti Williams am eu magwraeth ar y ffarm ganol y ganrif ddiwethaf, a’r ddau yn dwyn i gof hen ffordd Gymreig o fyw ac amaethu.


Mae Aled a Sara hefyd yn clywed am gyfraniad mynachod y Canol Oesoedd at ddiogelu’n llenyddiaeth, a damcaniaeth am greu canolfan tebyg i Abaty Westminster yn Ystrad Fflur i weinyddu Cymru annibynnol.


Yn gyflwynydd y gyfres gwis Rhannu ar S4C a sioe foreol BBC Radio Cymru, mae Aled wrth ei fodd yn clywed hanesion ac atgofion gan ystod eang o gyfranwyr.


“Mae gwneud y gyfres yma wir wedi bod yn fraint,” meddai Aled, sy’n dod o Lanbedrog yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ar Ynys Môn.


“Dw’i a Sara wedi cael cyfle prin i fynd i mewn a chanfod mwy am chwech adeilad sy’n bwysig i’n hanes a’n hunaniaeth ni fel gwlad. Maen nhw’n gymaint mwy na waliau sych. Mae gan bob un eu straeon unigryw ac mae’r rheiny’n dod yn fyw wrth sgwrsio gyda phobl, a chlywed am eu profiadau nhw ac eraill fu’n byw neu’n gweithio yn yr adeiladau hyn.”


Mae Sara Huws yn wyneb newydd ar S4C ond fel hanesydd adeiladau mae ganddi brofiad helaeth o weithio ym maes archif a hanes pensaernïaeth.


“Beth oedd yn wych am Waliau’n Siarad oedd cael cyfle i fusnesu mewn adeiladau sydd fel arfer ynghau i’r cyhoedd. Mae llefydd fel Coleg Harlech yn rhan o’n hanes ni i gyd yng Nghymru ac roedd yn fraint cael mynediad at y lle. Mae mor bwysig i ni ddathlu ac ymfalchïo yn y trysorau pensaernïol yma, a gwneud yn siwr nad yw eu straeon yn mynd yn angof,” meddai Sara sy’n gweithio yn Adran Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.

Continue Reading

Cymraeg

Argyfwng yr Hinsawdd a Gwrthryfel Difodiant

Avatar

Published

on

MAE’r wyddoniaeth yn glir: oherwydd y newid yn yr hinsawdd sydd wedi’i achosi gan allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac oherwydd dinistrio cynefinoedd ac ecosystemau dros y byd, mae argyfwng difrifol yn ein hwynebu. Mae hyn wedi’i ddatgan yn swyddogol gan lywodraethau Cymru a’r DU, yn ogystal â gan y Cenhedloedd Unedig, NASA, a 97% o wyddonwyr hinsawdd y byd. Mae mudiadau dros y byd, a phobl ifanc dros y byd, yn ceisio gwthio eu llywodraethau i ymateb i’r argyfwng mewn ffordd ddigonol ac effeithiol. Gwrthryfel Difodiant / Extinction Rebellion (XR) yw’r un sy wedi hawlio’r penawdau fwyaf efallai.


Bydd cyflwyniad i Argyfwng yr Hinsawdd, ac ymateb Gwrthryfel Difodiant iddo, yn Neuadd Goffa Pontgarreg, SA44 6AJ, nos Wener, 10 Ionawr 2020 am 7yh. Bydd y cyflwyniad trwy gyfrwng y Gymraeg. Cewch ragor o wybodaeth trwy e-bostio xrcymraeg@gmail.com, neu trwy ymweld â thudalen Facebook “XR Cymraeg”.
Croeso cynnes i bawb, mynediad am ddim.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK