Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Twristiaeth: Y Gymraeg ‘weithiau’n mynd yn y ffordd’

Avatar

Published

on

" Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i gynnal y ffigurau ardderchog hyn yng Nghymru.”: Ken Skates .

” Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i gynnal y ffigurau ardderchog hyn yng Nghymru.”: Ken Skates .

MAE CADEIRYDD Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dweud fod y Gymraeg ‘weithiau’n mynd yn y ffordd’ pan mae twristiaid yn ymweld â llefydd gydag enwau Cymraeg yng Nghymru.
Roedd Chris Osborne yn siarad ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales cyn i Aelodau Cynulliad drafod deiseb sy’n galw am greu polisi cenedlaethol i ddiogelu a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg.
Ar y rhaglen, dywedodd Chris Osborne ei fod yn credu fod cadw’r iaith Gymraeg yn fyw yn ‘bwysig iawn’ i dwristiaeth yn y wlad, ond ychwanegodd, oherwydd bod 80% o dwristiaid i Gymru yn dod o’r DU, a’r rhan fwyaf o’r rheini’n dod o Loegr, bod angen ‘gwneud pethau’n hygyrch ac i enwau llefydd fod yn hygyrch’.
Ond, pan ofynnwyd iddo a oedd o’n gwybod am unrhyw enghraifft o enw amgen Saesneg yn cael ei roi ar le oedd wedi cael effaith cadarnhaol ar dwristiaeth mewn ardal, dywedodd fod yr iaith Gymraeg ‘weithiau yn mynd yn y ffordd’.
Ychwanegodd Chris Osborne: “Nawr, rwy’n sylweddoli ei fod yn rhan fawr o beth sydd gan Gymru i’w gynnig, ac rwy’n falch iawn o hynny, ond os yw’n mynd yn y ffordd, dylai fod gwahanol ffyrdd i alluogi pobl i’w fwynhau i raddau mwy.”
Daeth ei sylwadau wrth i Aelodau Cynulliad drafod deiseb sefydliad Mynyddoedd Pawb sydd wedi casglu dros 1,500 o enwau pobol sy’n credu y dylai enwau Cymreig hanesyddol – ar fynyddoedd, llwybrau, tai neu greigiau – gael eu parchu gan drigolion ac ymwelwyr.
Yn y pen draw, y bwriad yw perswadio Llywodraeth Cymru i ddod a’r enwau o dan reolaeth gynllunio, fel bo canolfannau awyr agored yn defnyddio’r enwau brodorol er mwyn ‘cyfoethogi profiad a dealltwriaeth cerddwyr’.
Wrth ymateb i sylwadau Chris Osborne ar y rhaglen y bore ma dywedodd Ceri Cunnington, sefydlydd menter awyr agored Antur Stiniog, ac un o’r rhai fydd yn cyflwyno deiseb Mynyddoedd Pawb: “Mae’r byd yn dod yn unffurf. Mae pobl am gofleidio diwylliannau newydd, eisiau profiadau newydd, am gael profiad gwirioneddol o iaith a diwylliant – a dw i’n meddwl bod eich datganiad chi am y Gymraeg yn mynd yn y ffordd yn anhygoel yn yr oes sydd ohoni.”
Ffiguriau twristiaeth daro uchel newydd:
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ffigurau sy’n cadarnhau bod 2014 wedi profi’n flwyddyn brysurach nag erioed o’r blaen i dwristiaeth yng Nghymru. Bu 10 miliwn o ymwelwyr o Brydain yn aros dros nos yng Nghymru yn ystod y flwyddyn a hynny am y tro cyntaf ers i Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ddechrau, ar ei ffurf gyfredol, yn 2006. Mae hwn yn ffigwr sydd i’w ganmol.
Gwelwyd cynnydd o 0.7 y cant yn nifer y tripiau i Gymru o’i gymharu â 2013, a’r flwyddyn honno hefyd yn un ardderchog. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd y ffigwr ar gyfer Prydain gyfan wedi gostwng 7.0 y cant.
Yn ogystal, roedd ymwelwyr o Brydain wedi gwario’r swm uchaf erioed yng Nghymru y llynedd fel y, sef £1.735 biliwn. Mae hwn yn gynnydd o 2.3 y cant tra bod cyfanswm yr hyn a wariwyd ar dripiau dros nos ym Mhrydain gyfan wedi gostwng 2.6 y cant o’i gymharu â 2013.
Mae’r cynnydd a fu yn nifer yr ymweliadau gwyliau – y brif elfen sy’n cynnal twristiaeth yng Nghymru – hyd yn oed yn fwy canmoladwy. O gymharu â 2013: aeth 4.4 y cant yn fwy ar dripiau, a gwariwyd 7.7 y cant yn fwy mewn cysylltiad â hynny.
Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’r ffigurau hyn yn hollol wych. Mae’n dangos bod Cymru ar flaen y gad. Mae cyrraedd y 10 miliwn yn garreg filltir bwysig iawn ac mae’n dangos bod Cymru yn ennill cyfran fwy o’r farchnad. Mae gwaith marchnata clodwiw Croeso Cymru wedi ennill gwobrau ac mae wedi sicrhau canlyniadau arbennig i Gymru. Y llynedd, fe wnaeth ymgyrch farchnata Prydain ac Iwerddon sef Have you packed for Wales? sbarduno gwerth £238m o wariant ychwanegol yn economi Cymru – cynnydd o 25 y cant ar gyfanswm y llynedd. Drwy fuddsoddi yn y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, rydym wedi ysgogi £13.97m o wariant ychwanegol.. Rydym wedi helpu’r diwydiant yng Nghymru i wella er mwyn cwrdd â disgwyliadau a galwadau’r cwsmeriaid, ac ae hynny’n hanfodol bwysig yn y diwydiant cystadleuol hwn. Mae’r diwydiant yn llawn hyder wedi cyfnod llwyddiannus iawn dros y Pasg. Gobeithiaf y bydd y ffigurau hyn yn rhoi hwb pellach i hyder y diwydiant ac y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn. Mae Prydain gyfan yn wynebu dirywiad yn y farchnad ac mae hynny’n gwneud y diwydiant twristiaeth yn un hynod gystadleuol. Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i gynnal y ffigurau ardderchog hyn yng Nghymru.”
Dywedodd Justin Baird Murray, Cadeirydd Cymru o Gymdeithas Lletygarwch Prydain (sy’n cynrychioli’r diwydiant gwestai a bwytai yng Nghymru): “Mae’r ffigurau hyn o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn galonogol iawn ac yn adlewyrchu hyder y gwestywyr yn eu cynnyrch eu hunain ac yn rhoi i ni sylfaen gadarn ar gyfer parhau i dyfu twristiaeth o ansawdd yng Nghymru. Mae’r diwydiant yn croesawu yn gynnes cefnogaeth frwd y Gweinidog ar gyfer ein busnesau a chydnabyddiaeth y llywodraeth o ba mor bwysig yw Lletygarwch i economi Cymru. Yr ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed uchelgeisiol o 20,000 o swyddi newydd yn ein sector rhwng 2011 a 2020 a bydd gennym ein in ystadegau eu hunain dros y misoedd nesaf sydd yn dangos ein pwysigrwydd hanfodol fel cyflogwr i gymunedau ledled Cymru.”
Yn yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, mae’r ffigurau ar gyfer naw mis cyntaf 2014 yn dangos bod nifer y bobl o dramor a wnaeth ymweld â Chymru hefyd yn gadarnhaol. Bu cynnydd o 14 y cant yn nifer yr ymwelwyr (795,000) o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2013. Gwelwyd cynnydd o 6 y cant yn y ffigurau gwariant (i £303 miliwn). Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gael y canlyniadau llawn ar gyfer 2014.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Dogfen DRYCH ar restr fer Gwobrau Grierson 2020

Avatar

Published

on

MAE S4C a Chwmni Da yn falch o gyhoeddi bod dogfen Eirlys, Dementia a Tim ar restr fer Gwobrau Grierson 2020.
Y Gwobrau Grierson, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel The British Documentary Awards, yw digwyddiad mwyaf yng nghalendr dogfennau yn y DU. Mae’r gwobrau yn adnabod ac yn dathlu dogfennau sy’n profi safon, creadigrwydd, gwreiddioldeb a rhagoriaeth.
Mae’r ddogfen, a gafodd ei chynhyrchu gan Gwmni Da ar gyfer cyfres DRYCH S4C – cyfres o ddogfennau gafaelgar sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw – wedi ei henwebu yng nghategori ‘Dogfen Sengl Orau – Cartref’.
Mae Eirlys, Dementia a Tim, rhaglen a gafodd ei ddarlledu’n wreiddiol ym mis Ionawr 2020, yn adrodd stori dau hen ffrind sy’n cwrdd unwaith eto ar ôl dilyn llwybrau go wahanol yn eu bywyd. Mae’r ddogfen yn rhoi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gyda Alzheimer’s ac yn dosbarthu neges bwerus gan Eirlys, i beidio bod ofn.
Meddai’r Cynhyrchydd, Sion Aaron: “Rwy’n hynod o falch bod ein dogfen wedi cael ei henwebu. Mae gan Tim Lynn ac Eirlys Smith stori arbennig iawn i’w ddweud, sy’n wefreiddiol ac ar brydiau yn ddigrif. Mae dementia yn cyffwrdd gymaint o fywydau ac rydym ni wedi trio ein gorau i bortreadu’r realiti sy’n wynebu pobl fel Eirlys sy’n byw gydag Alzheimer’s cynnar.”
Meddai Dylan Huws, Uwch Gynhyrchydd y rhaglen: “Mae’r Gwobrau Grierson yn wobrau mawreddog ac mae hi’n fraint bod ymysg yr enwau mawr ar y rhestr. Mae hyn yn dangos ein bod ni’n gallu cynhyrchu straeon heriol ac atyniadol yn y Gymraeg sy’n sefyll ymysg y gorau yn y byd.”
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C: “Weithiau, mae ‘na gomisiwn sy’n wirioneddol yn cyffwrdd y galon. Mae Eirlys, Dementia a Tim yn enghraifft wych o hynny. Dyma raglen ddogfen a lwyddodd i roi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gydag Alzheimers gan gyfleu neges bwerus a phositif i beidio bod ofn. Dwi’n hynod falch fod y ffilm hon wedi ei henwebu ac yn cael ei gweld ochr yn ochr gyda dogfennau mwyaf pwerus y DU. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm i gyd.”
Gyda holl ddarlledwyr y DU yn gallu cystadlu, Eirlys, Dementia a Tim yw unig gynrychiolydd Cymru yng Ngwobrau Grierson.
Mi fydd y noson wobrwyo ar y 10fed o Dachwedd 2020 yng Nghanolfan Southbank, Llundain.

Continue Reading

Cymraeg

Ail-ymweld â Gwesty Aduniad

Avatar

Published

on

DROS y blynyddoedd mae ‘na westy arbennig sydd wedi newid bywydau am byth. Mae’r gyfres Gwesty Aduniad wedi dod â phobl yn ôl at ei gilydd, a hynny weithiau ar ôl oes ar wahân.
Roedd rhai eisiau dweud diolch; eraill angen ymddiheuro cyn iddi fod yn rhy hwyr. O deuluoedd ar wasgar i arwyr wnaeth achub bywydau, o gyn-gariadon i ddarganfod perthynas am y tro cyntaf, mae’r Gwesty hwn wedi dad-gloi stôr o straeon.
Ond sut beth oedd darganfod teulu neu ffrindiau coll? A sut wnaeth bywyd newid ar ôl yr aduniadau?
Mewn cyfres newydd, Goreuon Gwesty Aduniad, sy’n dechrau ar 17 Awst, cawn ail ymweld â rhai wnaeth brofi’r wefr o wireddu breuddwydion, a chael gwybod ychydig mwy am y broses o sut i ddod o hyd i deulu gwaed, wrth brofi eto rhai o aduniadau mwyaf cofiadwy’r gyfres – a chlywed be ddigwyddodd wedyn.
Bydd thema arbennig i bob rhaglen, gan gynnwys ‘Chwilio am Dad’ ‘Cyfrinachau’, ‘Ffrindiau Oes’, ‘Brodyr a Chwiorydd’ ‘Dweud Diolch’ ac ‘O Ben Draw Byd’. Ond troi at luniau mae’r rhaglen gyntaf, ‘Y Stori tu ôl i’r Llun’, lle cawn ail-fyw stori dau berson oedd yn chwilo am deulu gwaed a chlywed eu hanes wedyn ar ôl bod yn y gwesty.
Pan ddaeth Cheryl Davies o hyd i lun o fabi yn ei thŷ yn San Clêr yn 2017 fe sylweddolodd mai hwn oedd y cliw oedd angen arni i geisio dod o hyd i’r ferch fach roddodd ei chwaer i’w mabwysiadu 50 mlynedd ynghynt. O fewn 6 mis wedi i Cheryl gysylltu â Gwesty Aduniad gyda’r gobaith o ddod ag oes o chwilio i ben, daeth newyddion da.
“Ar ôl addo i Elinor byddwn i’n ffindo Helen, doeddwn i ddim yn gwybod byddai mor galed” meddai Cheryl.
Cawn glywed sut wnaeth y wybodaeth angenrheidiol yn y llun hollbwysig helpu darganfod ei nith oedd wedi’i magu dan yr enw Virginia, a chawn ail-fyw’r aduniad bythgofiadwy.
“Pan weles i hi, dwi ddim yn gallu esbonio sut o’n i’n teimlo, achos roedd hi yna – dim jest meddwl amdani fel o’n i wedi gwneud am 50 mlynedd. Heblaw am Westy Aduniad byddwn i ddim wedi dod o hyd iddi” ychwanega Cheryl.
Ond beth ddigwyddodd nesaf? Yn y gyfres cawn glywed am y llawenydd wedi’r aduniad wrth i bawb ddod at ei gilydd a chreu teulu cyflawn o’r diwedd.
Stori am sut mae hen lun yn medru camarwain pobl oedd un John Jones o Lechryd, Ceredigion pan drodd at Westy Aduniad wedi blynyddoedd o chwilio am hanes ei dad.
A llun fu’n ganolog i stori Trebor Roberts o Lansannan hefyd – llun oedd wedi’i gario yn ei waled am ddegawdau.
Mae gan y tri hyn bellach stôr o luniau newydd i’w trysori i’r dyfodol. Ymunwch â’r daith emosiynol, fydd yn cynhesu’r galon yn y gyfres newydd hon.

Continue Reading

Cymraeg

Mae defnydd cynyddol o dechnoleg yn helpu dysgwyr Cymraeg

Avatar

Published

on

MAE Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi pwyso ar y niferoedd uwch nag erioed sy’n dysgu Cymraeg yn ddigidol i gymryd rhan yn Eisteddfod rithiol AmGen eleni.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod AmGen, sy’n cael ei chynnal yn rhithiol eleni mewn ymgais i sicrhau y gall pobl ddal i gwrdd i ddathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru, datgelodd y Gweinidog ei bod wrth ei bodd yn clywed mai’r Gymraeg yw’r seithfed iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu ar ap iaith Duolingo yn y DU, a’i bod felly yn fwy poblogaidd na Tsieineeg.
Cofrestrodd mwy o bobl y DU nag erioed i ddysgu Cymraeg ar yr ap rhwng Mawrth a Mehefin eleni.
Mewn ymgais i estyn allan at ddysgwyr Cymraeg sy’n cynhesu at yr iaith, bydd yna weithgareddau dyddiol, megis sesiynau blasu Cymraeg, a digwyddiadau i ddysgwyr.
Bydd yna ddigwyddiadau hefyd i roi cyfleoedd i blant barhau i siarad a chlywed y Gymraeg y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys straeon, gemau a cftau, a chaiff hyn ei gysylltu ag ymgyrch Llond Haf o Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol, sef sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae am gyrraedd y nod drwy strategaeth Cymraeg 2050.
Ym mis Ebrill, cymeradwyodd y Gweinidog gyfraniad ychwanegol o £500,000 tuag at Eisteddfod eleni, yn ogystal â chyllid craidd Llywodraeth Cymru o £603,000, er mwyn sicrhau dyfodol ariannol yr Eisteddfod a chaniatáu i’r Eisteddfod rithiol ddigwydd.
Yn ystod sesiwn banel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru, dywed y Gweinidog fod y cyfnod clo yn rhoi’r cyfle perffaith i bobl fireinio eu sgiliau Cymraeg.
Meddai Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: “Mae’n wych gweld cymaint o bobl yn achub ar y cyfle i ddefnyddio technoleg i wella eu Cymraeg.
“A’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn gweld cynnydd nodedig yn y bobl sy’n cofrestru i ddysgu ar-lein, mae’n dangos sut y gall technoleg ei gwneud yn bosibl i genhedlaeth newydd ddysgu’r Gymraeg.
“Mae’n siom na all yr Eisteddfod ddigwydd fel arfer eleni, ond dw i’n ei llongyfarch am greu AmGen a dw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn panel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru.
“Mae dyfnhau ein dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn rhan allweddol o’n hymdrechion i hyrwyddo strategaeth Cymraeg 2050.”

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK