Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Prentisiaethau peirianneg ar gynnydd

Avatar

Published

on

Cychwyn ar eu hyfforddiant prentisiaeth (o’r chwith): Josh Ayres, 19 oed, sydd wedi cofrestru gyda Gestamp Tallent Ltd, Cory Raynel, 19 oed, a fydd yn gweithio yn TATA a Cameron Thomas, 18 oed a fydd yn cychwyn ar brentisiaeth yn Amcanu gyda’u darlithydd, Rob Rees.

Cychwyn ar eu hyfforddiant prentisiaeth (o’r chwith): Josh Ayres, 19
oed, sydd wedi cofrestru gyda Gestamp Tallent Ltd, Cory Raynel, 19 oed, a
fydd yn gweithio yn TATA a Cameron Thomas, 18 oed a fydd yn cychwyn ar
brentisiaeth yn Amcanu gyda’u darlithydd, Rob Rees.

MAE COLEG SIR GAR yn gweithio’n agos gyda chwmnïau peirianneg lleol i helpu i lenwi bwlch mewn cyfleoedd am brentisiaethau, sydd wedi cynyddu’n sylweddol eleni.

Mae 20 o fyfyrwyr yn y coleg eisoes wedi cael cynnig rhaglen brentisiaeth mewn peirianneg gyda llawer mwy yn disgwyl cael lle erbyn mis Medi, sydd yn dangos cynnydd o tua 60% erbyn yr adeg hon y llynedd.

Mae gweithgynhyrchu ar gynnydd yng Nghymru, sydd wedi arwain at fwy o alw am lafur medrus. Credir bod gweithlu sy’n heneiddio a diffyg prentisiaethau dros nifer o flynyddoedd wedi gadael prinder sgiliau a diffyg pobl ifanc yn camu i’r diwydiant. Mae cwmnïau yn ymateb i hyn ac yn defnyddio eu cysylltiadau gyda’r coleg fel y man galw cyntaf i gofrestru gweithwyr newydd.

“Mae blwyddyn yn y coleg ar y cwrs Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO) yn gosod sylfaen berffaith ar gyfer cychwyn ar brentisiaeth mewn peirianneg,” meddai Keith Williams, swyddog ymgysylltu â chyflogwyr Coleg Sir Gâr.

“O ganlyniad daw cwmnïau atom ni’n gyntaf oherwydd bod y myfyrwyr yn dysgu’r hanfodion mewn naill ai peirianneg fecanyddol neu drydanol gan gynnwys sgiliau perthnasol sy’n gysylltiedig â’r cyflogwr megis iechyd a diogelwch.”

Ychwanegodd Keith Williams: “Mae gennym gysylltiadau diwydiannol da gyda thros 60 o gwmnïau yn gweithio gyda ni ar hyn o bryd, gyda’r manteision ychwanegol o allu cynnig hyfforddiant ychwanegol yn eu meysydd arbenigol megis gweithrediadau cemegol, CNC, PLC a CAD/CAM.”

Mae disgwyl y bydd y cynnydd hwn yn parhau, a disgwylir y bydd 5,000 yn rhagor o brentisiaid yn cael eu hyfforddi dros y 10 mlynedd nesaf yng Nghymru.

Gall prentisiaid â lefel uchel o sgiliau sydd wedi cwblhau pedair blynedd o hyfforddiant ddechrau ennill o £25,000 y flw yddyn.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Dogfen DRYCH ar restr fer Gwobrau Grierson 2020

Avatar

Published

on

MAE S4C a Chwmni Da yn falch o gyhoeddi bod dogfen Eirlys, Dementia a Tim ar restr fer Gwobrau Grierson 2020.
Y Gwobrau Grierson, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel The British Documentary Awards, yw digwyddiad mwyaf yng nghalendr dogfennau yn y DU. Mae’r gwobrau yn adnabod ac yn dathlu dogfennau sy’n profi safon, creadigrwydd, gwreiddioldeb a rhagoriaeth.
Mae’r ddogfen, a gafodd ei chynhyrchu gan Gwmni Da ar gyfer cyfres DRYCH S4C – cyfres o ddogfennau gafaelgar sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw – wedi ei henwebu yng nghategori ‘Dogfen Sengl Orau – Cartref’.
Mae Eirlys, Dementia a Tim, rhaglen a gafodd ei ddarlledu’n wreiddiol ym mis Ionawr 2020, yn adrodd stori dau hen ffrind sy’n cwrdd unwaith eto ar ôl dilyn llwybrau go wahanol yn eu bywyd. Mae’r ddogfen yn rhoi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gyda Alzheimer’s ac yn dosbarthu neges bwerus gan Eirlys, i beidio bod ofn.
Meddai’r Cynhyrchydd, Sion Aaron: “Rwy’n hynod o falch bod ein dogfen wedi cael ei henwebu. Mae gan Tim Lynn ac Eirlys Smith stori arbennig iawn i’w ddweud, sy’n wefreiddiol ac ar brydiau yn ddigrif. Mae dementia yn cyffwrdd gymaint o fywydau ac rydym ni wedi trio ein gorau i bortreadu’r realiti sy’n wynebu pobl fel Eirlys sy’n byw gydag Alzheimer’s cynnar.”
Meddai Dylan Huws, Uwch Gynhyrchydd y rhaglen: “Mae’r Gwobrau Grierson yn wobrau mawreddog ac mae hi’n fraint bod ymysg yr enwau mawr ar y rhestr. Mae hyn yn dangos ein bod ni’n gallu cynhyrchu straeon heriol ac atyniadol yn y Gymraeg sy’n sefyll ymysg y gorau yn y byd.”
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C: “Weithiau, mae ‘na gomisiwn sy’n wirioneddol yn cyffwrdd y galon. Mae Eirlys, Dementia a Tim yn enghraifft wych o hynny. Dyma raglen ddogfen a lwyddodd i roi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gydag Alzheimers gan gyfleu neges bwerus a phositif i beidio bod ofn. Dwi’n hynod falch fod y ffilm hon wedi ei henwebu ac yn cael ei gweld ochr yn ochr gyda dogfennau mwyaf pwerus y DU. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm i gyd.”
Gyda holl ddarlledwyr y DU yn gallu cystadlu, Eirlys, Dementia a Tim yw unig gynrychiolydd Cymru yng Ngwobrau Grierson.
Mi fydd y noson wobrwyo ar y 10fed o Dachwedd 2020 yng Nghanolfan Southbank, Llundain.

Continue Reading

Cymraeg

Ail-ymweld â Gwesty Aduniad

Avatar

Published

on

DROS y blynyddoedd mae ‘na westy arbennig sydd wedi newid bywydau am byth. Mae’r gyfres Gwesty Aduniad wedi dod â phobl yn ôl at ei gilydd, a hynny weithiau ar ôl oes ar wahân.
Roedd rhai eisiau dweud diolch; eraill angen ymddiheuro cyn iddi fod yn rhy hwyr. O deuluoedd ar wasgar i arwyr wnaeth achub bywydau, o gyn-gariadon i ddarganfod perthynas am y tro cyntaf, mae’r Gwesty hwn wedi dad-gloi stôr o straeon.
Ond sut beth oedd darganfod teulu neu ffrindiau coll? A sut wnaeth bywyd newid ar ôl yr aduniadau?
Mewn cyfres newydd, Goreuon Gwesty Aduniad, sy’n dechrau ar 17 Awst, cawn ail ymweld â rhai wnaeth brofi’r wefr o wireddu breuddwydion, a chael gwybod ychydig mwy am y broses o sut i ddod o hyd i deulu gwaed, wrth brofi eto rhai o aduniadau mwyaf cofiadwy’r gyfres – a chlywed be ddigwyddodd wedyn.
Bydd thema arbennig i bob rhaglen, gan gynnwys ‘Chwilio am Dad’ ‘Cyfrinachau’, ‘Ffrindiau Oes’, ‘Brodyr a Chwiorydd’ ‘Dweud Diolch’ ac ‘O Ben Draw Byd’. Ond troi at luniau mae’r rhaglen gyntaf, ‘Y Stori tu ôl i’r Llun’, lle cawn ail-fyw stori dau berson oedd yn chwilo am deulu gwaed a chlywed eu hanes wedyn ar ôl bod yn y gwesty.
Pan ddaeth Cheryl Davies o hyd i lun o fabi yn ei thŷ yn San Clêr yn 2017 fe sylweddolodd mai hwn oedd y cliw oedd angen arni i geisio dod o hyd i’r ferch fach roddodd ei chwaer i’w mabwysiadu 50 mlynedd ynghynt. O fewn 6 mis wedi i Cheryl gysylltu â Gwesty Aduniad gyda’r gobaith o ddod ag oes o chwilio i ben, daeth newyddion da.
“Ar ôl addo i Elinor byddwn i’n ffindo Helen, doeddwn i ddim yn gwybod byddai mor galed” meddai Cheryl.
Cawn glywed sut wnaeth y wybodaeth angenrheidiol yn y llun hollbwysig helpu darganfod ei nith oedd wedi’i magu dan yr enw Virginia, a chawn ail-fyw’r aduniad bythgofiadwy.
“Pan weles i hi, dwi ddim yn gallu esbonio sut o’n i’n teimlo, achos roedd hi yna – dim jest meddwl amdani fel o’n i wedi gwneud am 50 mlynedd. Heblaw am Westy Aduniad byddwn i ddim wedi dod o hyd iddi” ychwanega Cheryl.
Ond beth ddigwyddodd nesaf? Yn y gyfres cawn glywed am y llawenydd wedi’r aduniad wrth i bawb ddod at ei gilydd a chreu teulu cyflawn o’r diwedd.
Stori am sut mae hen lun yn medru camarwain pobl oedd un John Jones o Lechryd, Ceredigion pan drodd at Westy Aduniad wedi blynyddoedd o chwilio am hanes ei dad.
A llun fu’n ganolog i stori Trebor Roberts o Lansannan hefyd – llun oedd wedi’i gario yn ei waled am ddegawdau.
Mae gan y tri hyn bellach stôr o luniau newydd i’w trysori i’r dyfodol. Ymunwch â’r daith emosiynol, fydd yn cynhesu’r galon yn y gyfres newydd hon.

Continue Reading

Cymraeg

Mae defnydd cynyddol o dechnoleg yn helpu dysgwyr Cymraeg

Avatar

Published

on

MAE Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi pwyso ar y niferoedd uwch nag erioed sy’n dysgu Cymraeg yn ddigidol i gymryd rhan yn Eisteddfod rithiol AmGen eleni.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod AmGen, sy’n cael ei chynnal yn rhithiol eleni mewn ymgais i sicrhau y gall pobl ddal i gwrdd i ddathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru, datgelodd y Gweinidog ei bod wrth ei bodd yn clywed mai’r Gymraeg yw’r seithfed iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu ar ap iaith Duolingo yn y DU, a’i bod felly yn fwy poblogaidd na Tsieineeg.
Cofrestrodd mwy o bobl y DU nag erioed i ddysgu Cymraeg ar yr ap rhwng Mawrth a Mehefin eleni.
Mewn ymgais i estyn allan at ddysgwyr Cymraeg sy’n cynhesu at yr iaith, bydd yna weithgareddau dyddiol, megis sesiynau blasu Cymraeg, a digwyddiadau i ddysgwyr.
Bydd yna ddigwyddiadau hefyd i roi cyfleoedd i blant barhau i siarad a chlywed y Gymraeg y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys straeon, gemau a cftau, a chaiff hyn ei gysylltu ag ymgyrch Llond Haf o Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol, sef sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae am gyrraedd y nod drwy strategaeth Cymraeg 2050.
Ym mis Ebrill, cymeradwyodd y Gweinidog gyfraniad ychwanegol o £500,000 tuag at Eisteddfod eleni, yn ogystal â chyllid craidd Llywodraeth Cymru o £603,000, er mwyn sicrhau dyfodol ariannol yr Eisteddfod a chaniatáu i’r Eisteddfod rithiol ddigwydd.
Yn ystod sesiwn banel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru, dywed y Gweinidog fod y cyfnod clo yn rhoi’r cyfle perffaith i bobl fireinio eu sgiliau Cymraeg.
Meddai Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: “Mae’n wych gweld cymaint o bobl yn achub ar y cyfle i ddefnyddio technoleg i wella eu Cymraeg.
“A’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn gweld cynnydd nodedig yn y bobl sy’n cofrestru i ddysgu ar-lein, mae’n dangos sut y gall technoleg ei gwneud yn bosibl i genhedlaeth newydd ddysgu’r Gymraeg.
“Mae’n siom na all yr Eisteddfod ddigwydd fel arfer eleni, ond dw i’n ei llongyfarch am greu AmGen a dw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn panel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru.
“Mae dyfnhau ein dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn rhan allweddol o’n hymdrechion i hyrwyddo strategaeth Cymraeg 2050.”

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK