Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Arweinydd yn croesawu sicrwydd ynghylch symud S4C

Published

on

Roedd yn croesawu’r sicrwydd gan S4C: Emlyn Dole

Roedd yn croesawu’r sicrwydd
gan S4C: Emlyn Doledole

MAE ARWEINYDD Sir Gaerfyrddin wedi croesawu’r sicrwydd gan S4C y bydd y symudiad arfaethedig i Gaerfyrddin yn digwydd o hyd.

Cafodd pryderon ynghylch cyllido’r sefydliad yn y dyfodol eu codi yng nghyfarfod y Cyngor yn ddiweddar, yn dilyn y cyhoeddiad y byddai’n rhaid i’r BBC dalu’r gost o roi trwyddedau am ddim i bobl dros 75 oed o 2018 ymlaen.

Amcangyfrifir y gallai’r cam hwn gostio hyd at £650 miliwn y flwyddyn i’r BBC, ac, fel rhan o’i hymdrechion i arbed arian, mae’n bosibl y bydd y Gorfforaeth yn cwtogi’r cyllid a roddir i S4C.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor Sir, ei fod yn disgwyl y byddai S4C yn wynebu toriadau o tua 10 y cant i’w chyllideb flynyddol.

Ysgrifennodd at Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, i gael sicrwydd na fyddai unrhyw arbedion effeithlonrwydd yn peryglu’r cynlluniau i ail-leoli pencadlys y sianel o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn y dyfodol.

Bellach mae Mr Jones wedi cyhoeddi datganiad gan ddweud: “Mae’r cymhellion dros y penderfyniad hwn yn rhai cadarn – sef dod â manteision ieithyddol, economaidd a diwylliannol i’r ardal yn ogystal â manteision ar gyfer y gwasanaeth y mae S4C yn ei ddarparu.

“Mae’n wir ein bod yn wynebu ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch faint o gyllid fydd yn cael ei roi i S4C yn y dyfodol ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal trafodaethau cynnar â Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwnnw.

“Ond o’r dechrau, un o amodau allweddol ein cynlluniau i ail-leoli ein pencadlys oedd y byddai hynny’n niwtral o ran costau i S4C yn ystod cyfnod y prosiect, ac mae’r cyd-destun newydd heriol hwn yn tanlinellu pwysigrwydd hynny.”

Dywedodd y Cynghorydd Dole: “Rwy’n llwyr groesawu’r datganiad hwn sy’n rhoi’r sicrwydd inni na fydd y toriadau i’r gyllideb y mae’r sefydliad yn eu hwynebu yn effeithio ar gynlluniau S4C i symud i Gaerfyrddin.

“Fel dywedais i o’r blaen, ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw hi inni fel sir fod y pencadlys newydd yn symud i Gaerfyrddin. “Mae hwn yn newydd i’w groesawu ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Community

Popular physical activity game Beat the Street gets underway in Llanelli

Published

on

BEAT THE STREET is a free, interactive game that encourages people of all ages to incorporate physical activity into their daily lives by rewarding teams with points and prizes the further they walk, cycle and roll.

There are prizes for the teams that travel the furthest with vouchers for books and sports equipment. There is a total points leader board and an average leader board so opportunities for teams of all sizes to win.

Beeping and flashing sensors called Beat Boxes will be placed on lampposts around the area for the duration of the six-week game. Primary school pupils will be provided with a player pack containing a map and a card for the child and an accompanying adult. The wider community can pick up a contactless card from a distribution point listed at www.beatthestreet.me/llanelli

Players then travel between the contactless Beat Boxes scoring points with their cards as they go. The further players travel, the more points they score for their community or school team. Each week is themed with different activities to help participants get the most out of their Beat the Street experience.

Beat the Street Llanelli is provided by Intelligent Health, commissioned by Carmarthenshire County Council and is supported by Sport Wales.

Cabinet Member for Regeneration, Leisure Culture and Tourism Cllr Gareth John, said: “We are delighted to bring this innovative and compelling game to Llanelli and we can’t wait to see how far everyone is able to walk, run, cycle and scoot. The game brings a competitive element to physical activity, but more than that, unites communities, helps people get to know their local area, reduces carbon emissions and improves both physical activity and mental health.”

More information is available at the Llanelli | Beat the Street website and on social media @BTSLlanelli

Continue Reading

Community

Gêm gweithgaredd corfforol boblogaidd Beat the Street wedi cychwyn yn Llanelli

Published

on

Mae Beat the Street yn gêm ryngweithiol, rhad ac am ddim sy’n annog pobl o bob oedran i ymgorffori gweithgaredd corfforol yn eu bywydau bob dydd trwy wobrwyo timau â phwyntiau a gwobrau po bellaf y maent yn cerdded, beicio a rholio.

Mae’r timau sy’n teithio bellaf yn cael eu gwobrwyo gyda thalebau ar gyfer llyfrau ac offer chwaraeon. Mae yna fwrdd arweinwyr ar gyfer cyfanswm pwyntiau ac hefyd bwrdd arweinwyr cyfartaledd felly mae cyfleoedd i dimau o bob maint ennill.

Bydd synwyryddion o’r new ‘Beat Boxes’ sy’n bîpio a fflachio yn cael eu gosod ar bolion lampau o amgylch yr ardal am gyfnod y gêm chwe wythnos. Bydd disgyblion ysgol gynradd yn cael pecyn chwaraewr sy’n cynnwys map a cherdyn ar gyfer y plentyn ac oedolyn sy’n dod gyda nhw. Gall y gymuned ehangach godi cerdyn digyswllt o bwynt dosbarthu a restrir yn www.beatthestreet.me/llanelli.

Yna mae chwaraewyr yn teithio rhwng y ‘Beat Boxes’ digyswllt gan sgorio pwyntiau gyda’u cardiau wrth fynd. Po bellaf y bydd chwaraewyr yn teithio, y mwyaf o bwyntiau y byddant yn eu sgorio ar gyfer eu tîm cymunedol neu ysgol. Mae thema bob wythnos gyda gwahanol weithgareddau i helpu cyfranogwyr i gael y gorau o’u profiad Beat the Street.

Mae Beat the Street Llanelli yn cael ei ddarparu gan Intelligent Health, wedi ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac yn cael ei gefnogi gan Chwaraeon Cymru,.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydym yn falch iawn o ddod â’r gêm arloesol a chymhellol hon i Lanelli ac rydym yn edrych ymlaen at weld pa mor bell y gall pawb gerdded, rhedeg, beicio a sgwtera. Mae’r gêm yn dod ag elfen gystadleuol i weithgarwch corfforol, ond yn fwy na hynny, mae’n uno cymunedau, yn helpu pobl i ddod i adnabod eu hardal leol, yn lleihau allyriadau carbon ac yn gwella gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llanelli | Beat the Street ac ar gyfryngau cymdeithasol @BTSLlanelli

Continue Reading

Cymraeg

Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Published

on

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.

Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.

Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o  feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.

Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.

Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.

Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.

Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”

Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.

Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”

Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK