Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Torïaid torri cyllid S4C

Published

on

Slaesio’r toriadau i S4C: Hoffus George Osborne yn defnyddio y fwyell

Slaesio’r toriadau i S4C: Hoffus
George Osborne yn defnyddio y
fwyell

MAE S4C wedi cael ar ddeall y bydd yr arian y mae’n ei dderbyn gan yr Adran dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Celfyddydau yn cael ei dorri dros y pedair blynedd o 2016/17 hyd at 2019/2020. Bydd toriadau cynyddol yn digwydd dros y cyfnod gan ddod a’r cyfraniad blynyddol i lawr o’r £6.7m presennol i £5m erbyn 2019/20.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones; “Mae’r penderfyniad i dorri’r cyllid mae S4C yn ei dderbyn gan y Llywodraeth ganolog yn fater o siom i ni, yn enwedig gan ei fod yn doriad sy’n sylweddol uwch na’r toriad cyffredinol y mae’r adran wedi ei dderbyn.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi pwyslais hyd yn oed mwy tyngedfennol ar ganlyniad y trafodaethau rydym yn eu cynnal gydag Ymddiriedolaeth y BBC wrth i ddyfodol ariannu S4C drwy ffi’r drwydded gael ei benderfynu. Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn tua 90% o’i chyllid drwy ffi’r drwydded ac mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi awgrymu y dylai S4C ddod o hyd i arbedion tebyg i’r arbedion y disgwylir i’r BBC eu gweithredu.

“Er y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i flaenoriaethu’r hyn sy’n cael ei wario ar gynnwys ac ar safon rhaglenni, mae’n anochel y bydd gan doriadau o’r math yma oblygiadau ar gyfer ystod ac amrywiaeth y gwasanaeth, a’r gallu i fanteisio ar gyfleodd newydd.

“Unwaith y bydd y darlun llawn yn glir, bydd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda chynhyrchwyr a gyda staff i drafod y dewisiadau anodd sydd o’n blaenau.”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o ddweud ‘celwyddau’ wedi iddyn nhw gyhoeddi toriad o 26% i grant S4C er gwaethaf addewid maniffesto i ‘ddiogelu’ cyllideb y sianel.

Ym mis Hydref 2010 penderfynodd Llywodraeth Prydain gwtogi’r grant i S4C o 94% dros bedair blynedd o £101m yn 2010-11 lawr i £7m yn 2014/15. Ond, cafwyd addewid ym maniffesto 2015 y Ceidwadwyr y bydden nhw’n “diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C.”

Wrth feirniadu’r cyhoeddiad, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r Ceidwadwyr wedi torri addewid maniffesto ac wedi dweud celwyddau wrth bobl Cymru. Mae torri dros chwarter y grant yn gwbl annerbyniol ac yn gwbl groes i’w haddewid.”

Methodd y Swyddfa Gymreig sôn am y toriad yn ei ryddhau i’r wasg swyddogol.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Charity

Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant

Published

on

Yn y llun uchod o’r chwith i’r dde: Nicola Thomas, Nyrs Plant Cymunedol; Angelo Dragone, perchennog Stallion Boxing Gym, a Claire Rumble, Swyddog Codi Arian.

Mae noson focsio coler wen wedi codi £1,178.43 ar gyfer y Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol ar draws Hywel Dda.

Cynhaliwyd y digwyddiad, a drefnwyd gan Angelo Dragone, perchennog Stallion Boxing Gym, ar 13 Mai 2022, yng Nghanolfan Selwyn Samuel ac Ystafell Lliedi, Llanelli.

Mae’r Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd hirdymor a thymor byr gyda’u hannibyniaeth ac yn helpu eu teuluoedd i ofalu amdanynt yn ddiogel gartref, gan leihau’r angen i gael eu derbyn i’r ysbyty.

Maent hefyd yn cefnogi ac yn hyfforddi staff ysgol a seibiant i alluogi plant a phobl ifanc i fynychu addysg i wneud y gorau o’u potensial bywyd, ac maent yn rhoi mynediad i ofal seibiant i deuluoedd.

Bydd yr arian a godir o’r digwyddiad hwn yn cefnogi’r nyrsys i gael deunyddiau hyfforddi a chynnal digwyddiadau er budd bywydau’r plant a’r bobl ifanc y mae’r gwasanaeth yn eu cefnogi.

Dywedodd Angelo Dragone, perchennog Stallion Boxing Gym: “Roeddwn yn hynod o hapus i godi arian ar gyfer y Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol. Mae Nicola, sy’n nyrs gymunedol i blant, yn hyfforddi yn y Stallion Boxing Gym ac mae wedi dweud llawer wrthyf am y gwasanaeth. Maent yn darparu llawer i blant llai ffodus.

“Diolch i bawb a fynychodd y noson ac a gyfrannodd at yr achos anhygoel hwn.”

Dywedodd Sara McDonnell, Arweinydd Tîm y Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol: “Diolch am wneud y rhodd garedig hon i’r Tîm Nyrsio Plant Cymunedol (CCN). Mae tîm CCN yn dîm bach o nyrsys sy’n gweithio ar draws tair sir Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae gennym nyrsys yn Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Aberteifi ac Aberystwyth. Rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc yn y gymuned.

“Gall hyn fod yn blant ag angen iechyd tymor byr ond yn bennaf yn blant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymhleth hirdymor. Rydym yn cefnogi’r plentyn drwy hybu ei annibyniaeth a grymuso ei deulu i ofalu amdano’n ddiogel gartref, gan leihau’r angen i gael ei dderbyn i’r ysbyty. Rydym yn cefnogi ac yn hyfforddi staff ysgol a seibiant i alluogi’r plentyn a’r person ifanc i fynychu addysg i wneud y gorau o’u potensial bywyd a galluogi teuluoedd i gael mynediad at ofal seibiant.

“Bydd y rhodd wych a godwyd o’r digwyddiad hwn yn ein cefnogi i gael deunyddiau hyfforddi a chynnal digwyddiadau er budd bywydau’r plant a’r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi. Diolch eto am ein cefnogi.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Josey Vaughan Hughes, Cynorthwyydd Cyfathrebu, drwy e-bost yn Josey.Vaughan-Hughes@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 07790 831735 / 01267 239815.

Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Nod yr elusen yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbynnir gan gleifion, eu teuluoedd a chymunedau lleol yn disodli cyllid y GIG, ond fe’u defnyddir i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn codi ac yn dosbarthu arian i wella gwasanaethau GIG lleol trwy:

  • Cynnig cysuron ychwanegol i gleifion i wneud yr amser a dreulir yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus
  • Darparu’r offer meddygol diweddaraf ar gyfer diagnosis a thriniaeth
  • Creu amgylchedd mwy croesawgar i gleifion, eu teuluoedd a staff
  • Cefnogi dysgu a datblygiad staff a mentrau lles
  • Gwella gofal yn ein cymunedau lleol
  • Ariannu prosiectau ymchwil i wella ein dealltwriaeth o driniaethau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg
  • Cyflwyno mentrau byw’n iach a hybu iechyd.

Am fwy o wybodaeth ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

Continue Reading

Community

Popular physical activity game Beat the Street gets underway in Llanelli

Published

on

BEAT THE STREET is a free, interactive game that encourages people of all ages to incorporate physical activity into their daily lives by rewarding teams with points and prizes the further they walk, cycle and roll.

There are prizes for the teams that travel the furthest with vouchers for books and sports equipment. There is a total points leader board and an average leader board so opportunities for teams of all sizes to win.

Beeping and flashing sensors called Beat Boxes will be placed on lampposts around the area for the duration of the six-week game. Primary school pupils will be provided with a player pack containing a map and a card for the child and an accompanying adult. The wider community can pick up a contactless card from a distribution point listed at www.beatthestreet.me/llanelli

Players then travel between the contactless Beat Boxes scoring points with their cards as they go. The further players travel, the more points they score for their community or school team. Each week is themed with different activities to help participants get the most out of their Beat the Street experience.

Beat the Street Llanelli is provided by Intelligent Health, commissioned by Carmarthenshire County Council and is supported by Sport Wales.

Cabinet Member for Regeneration, Leisure Culture and Tourism Cllr Gareth John, said: “We are delighted to bring this innovative and compelling game to Llanelli and we can’t wait to see how far everyone is able to walk, run, cycle and scoot. The game brings a competitive element to physical activity, but more than that, unites communities, helps people get to know their local area, reduces carbon emissions and improves both physical activity and mental health.”

More information is available at the Llanelli | Beat the Street website and on social media @BTSLlanelli

Continue Reading

Community

Gêm gweithgaredd corfforol boblogaidd Beat the Street wedi cychwyn yn Llanelli

Published

on

Mae Beat the Street yn gêm ryngweithiol, rhad ac am ddim sy’n annog pobl o bob oedran i ymgorffori gweithgaredd corfforol yn eu bywydau bob dydd trwy wobrwyo timau â phwyntiau a gwobrau po bellaf y maent yn cerdded, beicio a rholio.

Mae’r timau sy’n teithio bellaf yn cael eu gwobrwyo gyda thalebau ar gyfer llyfrau ac offer chwaraeon. Mae yna fwrdd arweinwyr ar gyfer cyfanswm pwyntiau ac hefyd bwrdd arweinwyr cyfartaledd felly mae cyfleoedd i dimau o bob maint ennill.

Bydd synwyryddion o’r new ‘Beat Boxes’ sy’n bîpio a fflachio yn cael eu gosod ar bolion lampau o amgylch yr ardal am gyfnod y gêm chwe wythnos. Bydd disgyblion ysgol gynradd yn cael pecyn chwaraewr sy’n cynnwys map a cherdyn ar gyfer y plentyn ac oedolyn sy’n dod gyda nhw. Gall y gymuned ehangach godi cerdyn digyswllt o bwynt dosbarthu a restrir yn www.beatthestreet.me/llanelli.

Yna mae chwaraewyr yn teithio rhwng y ‘Beat Boxes’ digyswllt gan sgorio pwyntiau gyda’u cardiau wrth fynd. Po bellaf y bydd chwaraewyr yn teithio, y mwyaf o bwyntiau y byddant yn eu sgorio ar gyfer eu tîm cymunedol neu ysgol. Mae thema bob wythnos gyda gwahanol weithgareddau i helpu cyfranogwyr i gael y gorau o’u profiad Beat the Street.

Mae Beat the Street Llanelli yn cael ei ddarparu gan Intelligent Health, wedi ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac yn cael ei gefnogi gan Chwaraeon Cymru,.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydym yn falch iawn o ddod â’r gêm arloesol a chymhellol hon i Lanelli ac rydym yn edrych ymlaen at weld pa mor bell y gall pawb gerdded, rhedeg, beicio a sgwtera. Mae’r gêm yn dod ag elfen gystadleuol i weithgarwch corfforol, ond yn fwy na hynny, mae’n uno cymunedau, yn helpu pobl i ddod i adnabod eu hardal leol, yn lleihau allyriadau carbon ac yn gwella gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llanelli | Beat the Street ac ar gyfryngau cymdeithasol @BTSLlanelli

Continue Reading

Trending

FOLLOW US ON FACEBOOK